Diwrnod ym mywyd gwirfoddolwr

Diwrnod ym mywyd gwirfoddolwr

Gan Gareth Owen

Mae gwirfoddoli i Gymdeithas Eryri yn ardal eang Eryri wedi golygu llawer i mi ar ddyddiau un ai allan yn ein cefn gwlad gwyllt neu’n gweithio yng ngardd Tŷ Hyll, sy’n agos i Fetws-y-coed. Rydw i wedi dysgu medrau lu o blannu coed a gwrychoedd yn Ninas Mawddwy i hau hadau blodau gwyllt yng Nghoed Ysgubor Wen y tu allan i Lanegryn. Rydw i wedi mwynhau dysgu sut i blygu gwrych ar fferm uwchben Dinas Mawddwy, a thorri eithin er mwyn dadorchuddio mannau claddu hynafol a llecynnau bwydo i’r frân goesgoch yn uchel yn y mynyddoedd uwchben Abergwyngregyn. Ond, fy hoff weithgaredd oedd gweithio yng ngerddi Tŷ Hyll.

Mae’r profiadau hyn ymhell iawn o’m gwaith blaenorol fel gyrrwr trên, lle roeddwn yn gyrru ar hyd a lled y wlad o Inverness i Fryste cyn ymddeol yn 2019. Yna daeth y Covid a daeth pob dim i ben am bron i ddwy flynedd. Roeddwn yn chwilio am rhywbeth i’w wneud a fyddai’n rhoi rhywbeth yn ôl i gefn gwlad ac i fyd natur. Wedi dod o hyd i Gymdeithas Eryri ar-lein, mi wnes i gais i fod yn wirfoddolwyr, cefais fy nerbyn, a dydw i ddim wedi edrych yn ôl.

Ar fy niwrnod o wirfoddoli yn Tŷ Hyll, cyrhaeddais mewn da bryd heb wybod beth i’w ddisgwyl. Cefais fy nghroesawu gan Mary, Swyddog Cadwraeth Cymdeithas Eryri sy’n gwarchod Tŷ Hyll, wedi i mi gyflwyno fy hun. Roedd Mary’n wych ac yn gwneud i mi deimlo’n gartrefol yn syth bin. Pan gyrhaeddodd y gwirfoddolwyr eraill, rhoddwyd croeso twymgalon i bawb, a chyflwynodd Mary’r gorchwylion ar gyfer y dydd.

Gareth yn gweithio ar wal mae parcio Tŷ Hyll

Wedi cyflwyniad manwl ar sut i defnyddio’r offer yn ddiogel, gwirfoddolais i glirio’r eiddew oddi ar furiau’r maes parcio a chlirio llanastr er mwyn i’r dŵr ddraenio’n iawn. Un o’r pethau cyntaf y sylwais arno oedd gwybodaeth Mary am y planhigion. Cawsom ddysgu am y farddanhadlen felen, planhigyn estron ymledol, a sut i’w osod mewn cynhwysydd perthnasol be baem yn dod ar ei draws.

Felly, i ffwrdd â fi gyda thorrwr planhigion, cribyn a berfa. Roedd bod allan yn yr awyr agored a mwynhau fy hun fel chwa o awyr iach, ac roedd cyfleoedd da hefyd i gael ambell i egwyl ar gyfer sgwrs a’r hanesion diweddaraf.

Cawsom ein cinio’n eistedd ar fainc yn yr ardd, gan ddod i adnabod ein gilydd a sgwrsio am ein swyddi blaenorol a phresennol. Eglurodd Mary beth oedd y gorchwylion ar y gweill yn yr ardd ac roedd hyn yn fy ysgogi fwyfwy i wirfoddoli.

Yna’n ôl at ein gorchwylion. Y nod oedd gorffen am dri o’r gloch, gan ei bod ym fis Ionawr ac roedd golau dydd yn brin. Wedi i mi orffen, daeth Mary i ddiolch i mi am yr hyn yr oeddwn wedi ei gyflawni, ac roeddwn yn falch ohonof fi fy hun.

Ers y diwrnod hwnnw, rydw i wedi bod yn ôl ddwywaith, ac rydw i wedi gweithio ar glirio’r llwybrau, a sicrhau eu bod yn ddiogel i bobl eu dilyn ar gyfer mwynhau’r gerddi a’r goedlan, tra bod eraill wedi clirio chwyn o’r gerddi.

Ar fy ymweliad diwethaf â Thŷ Hyll fel gwirfoddolwr, cawsom gwmni Swyddog Cadwraeth Cymdeithas Eryri, Alf, a ddysgodd inni sut i greu rhwystr o wrych marw. Defnyddiwyd canghennau marw a brigau fel stanciau, cyn gwau’r canghennau i mewn i’r fframwaith. Roedd yn edrych yn wych ac roeddem i gyd yn falch o’n gwaith.

Rydw i’n edrych ymlaen at fy ymweliad nesaf yno ac at gael cyfarfod fy holl gyfeillion sy’n gwirfoddoli ac sydd, erbyn hyn, wedi dod fel teulu i mi o bell ac agos.

Gareth Owen

Gwirfoddolwr Cymdeithas Eryri

Volunteers working in the Tŷ Hyll garden

Comments are closed.