Ystafell de Pot Mêl yn ail-agor!

Mae ein ffrindiau sy’n rhedeg busnes ystafell de Pot Mêl yn Nhŷ Hyll wedi ail-agor am y tymor! Saith diwrnod yr wythnos, gallwch fwynhau eu teisennau blasus, te neu ginio. Gallwch alw heibio’r ardd a’r goedlan hefyd. Mae’r rhain yn agored yn rhad ac am ddim drwy’r flwyddyn gron. (Er, rydym bob amser yn croesawu cyfraniadau i’n helpu i’w gwarchod ar ran bywyd gwyllt!).

Bellach mae darn hyfryd o galigraffi wedi ei fframio i’w weld wrth ymyl grisiau’r tŷ. Rhoddwyd hwn i ni y llynedd ac rydym yn awyddus i ddatrys y dirgelwch ynglŷn â phwy â’i gyfrannodd i ni. Os mai chi wnaeth, cofiwch gysylltu â mary@snowdonia-society.org.uk, os gwelwch yn dda.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am ystafell de Pot Mêl, ffoniwch 01492 642322.

Comments are closed.