Fe wnaethoch chi helpu ni enill!

Fe wnaethoch chi helpu ni enill!

Diolch o galon i bawb a gyfrannodd £2 neu ragor i ni trwy gyfrwng Localgiving yr wythnos diwethaf.  Fel rhan o wythnos elusennau bychan, roedd Localgiving yn rhoi gwobrau i elusennau oedd wedi casglu’r nifer uchaf o gyfraniadau unigol.   Llwyddodd eich cyfraniadau chi i wneud gwahaniaeth go iawn, oherwydd rydym ni bellach wedi cael ein hysbysu ein bod ni wedi ennill y wobr gyntaf o £300.

Llwyddiant er budd Eryri!

Defnyddir yr arian hwn i gynorthwyo i gynnal y gwaith a wneir gan ein gwirfoddolwyr gwych i gynnal llwybrau, casglu sbwriel, clirio rhywogaethau ymwithiol, rheoli cynefinoedd a chynnal arolygon o fywyd gwyllt ledled Eryri.

Diolch i bawb a gyfrannodd ac a anogodd eraill i gyfrannu.  Mae cymorth pobl fel chi yn amhrisiadwy i’n gwaith.


Os hoffech chi gyfranogi yn unrhyw un o’n cyfleoedd i wirfoddolwyr, cysylltwch â Dan neu Owain i gael rhagor o wybodaeth.

 

 

Comments are closed.