Oherwydd ei fod mor boblogaidd, mae llawer o bobl yn anghofio mai mynydd ydy’r Wyddfa. Mae damweiniau’n gallu digwydd.
Mae llawer o bobl yn ymweld â’r Wyddfa heb baratoi o gwbl. Beth sydd angen i chi ei wisgo, ei fwyta, ei yfed a sut fyddwch chi’n dod o hyd i’r llwybr? Ydych chi wedi gwirio rhagolygon y tywydd? Oes angen i chi ohirio eich taith nes bydd y tywydd yn gwella? Fe all y rhain fod yn gwestiynau anodd i’w hateb, yn enwedig os nad ydych wedi dringo llawer o fynyddoedd.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, a phartneriaid o Bartneriaeth y Wyddfa, wedi cynllunio app i’ch helpu chi i ateb y rhain a chwestiynau pwysig eraill. Mae’n gweithio gyda GPS ac oddi ar-lein sy’n eich galluogi I dracio eich cynnydd wrth i chi ddringo’n uwch. Cewch hyd i gysylltau i wybodaeth ddefnyddiol i’ch helpu i wneud yn fawr o’ch ymweliad.
Os fyddwch chi’n ymweld â’r Wyddfa cofiwch baratoi a gwneud yn siŵr y bydd eich taith yn un ddiogel.
Byddwch yn ddiogel. Troediwch yn ysgafn. Byddwch yn garedig.
Lawrlwythwch App Llwybrau Yr Wyddfa