Sialens Cofnodwyr yr Awyr Dywyl 2017

Starry Nigh

Sialens Cofnodwyr yr Awyr Dywyl 2017

Ar ôl ennill Statws Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol yn Nhachwedd yn 2015, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, trwy bartneriaeth â Chymdeithas Eryri, yn chwilio am wirfoddolwyr i gynorthwyo i fesur ansawdd yr awyr dywyll yn Eryri. Gan ddefnyddio dyfais syml o’r enw ‘Sky Quality Meter’ neu eich iPhone, bydd angen i chi ymweld â lleoliadau penodol o amgylch y Parc Cenedlaethol, i fesur y tywyllwch, ar nosweithiau clir heb olau’r lloer.

A ydych yn hoffi ffotograffiaeth? Rydym yn edrych am luniau rhagorol o awyr dywyll Eryri er mwyn hybu fwy o wirfoddolwyr i gymeryd y sialens. (Cofiwch ei’n bod ni angen cyfeirnodi pob llun gyda eich enw a lleoliad.)

Hyd yn hyn rydym wedi cwbwlhau 7 lleoliad gyda 6 arall yn y broses o cael eu cofnodi. Diolch yn fawr iawn i Adrian am ei waith caled yn casglu data o amgylch Y Bala.

Mae gennym ni hyd at cychwyn mis Mawrth i gwblhau’r sialens hwn, felly os hoffech chi ein cynorthwyo, cysylltwch ag Owain i gael rhagor o wybodaeth.

Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498

Comments are closed.