Gwahoddir ffotograffwyr i fynegi diddordeb.
Mae Cymdeithas Eryri yn chwilio am ffotograffydd i dynnu lluniau rhagorol o Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol a chynhadledd blwyddyn ein hanner canmlwyddiant ar ddydd Sadwrn 14 Hydref.
Rydym ni’n chwilio am ddelweddau deniadol a thrawiadol sy’n ymgorffori pobl â negeseuon allweddol Cymdeithas Eryri.
Rhaid i ffotograffwyr allu darparu tystiolaeth o’u gwaith.
I fynegi diddordeb a chynnig pris, e-bostiwch claire@snowdonia-society.org.uk