Adfer bysiau i Lanberis

bus_petition_snowdonia1

Delwedd: Alan Crayshaw

Byddech gystal ag arwyddo y ddeiseb hon i adfer y gwasanaethau bysiau rhwng Bangor a Llanberis.

Dyma’r ddeiseb: Mae’r gwasanaeth bws rhif 85 yn gymal hanfodol rhwng y canolfan rhanbarthol Bangor, efo’r Brifysgol, Colegau, gwasanaeth tren a chyfleon gwaith, a Llanberis un o’r trefi mwyaf yng Ngwynedd a mynedfa twristiaeth i Barc Cenedlaethol Eryri a chartref i un o gyflogwyr mwyaf yr ardal, Siemens. Mae’r gwasanaeth yma hefyd yn gweini pentrefi sylweddol, e.e. Deiniolen a Rhiwlas yn ogystal ag Ysbytty Gwynedd.

Yn dilyn methiant Bws Padarn, torodd Express Motors y nifer o wasanaethau o 16 i 9 gan ddileu pob gwasanaeth yn yr hwyr. Mae’r bws olaf o Fangor rwan yn gadael am 17.45 yn lle 22.30, sydd yn ddiwerth i unrhywun sydd yn gorffen gweithio ym Mangor ar ol 17.30, ac yn gwneuth unrhyw daith cymdeithasol yn yr hwyr yn amhosib.

Mae gwasanaeth Bws Padarn gynt o Lanberis i Gaernarfon hefyd wedi ei dorri, yn ogystal a’r “Snowdon Sherpa”, a fu yn factor sylweddol i annog ymwelwyr i beidio gyrru i Pen y Pass i chwilio am le i barcio.

Mae’r ddeiseb yma wedi ei anelu at ein aelod Cynulliad Cymru, gan nid ydym wedi cael unrhyw ymateb oddiwrth Express Motors. Gofynnwn i’r Cynulliad i sefydlu adolygiad o’r gwasanaethau cyfredol a weinyddwyd gynt gan Bws Padarn.

Dyma grynodeb o’r gwasanaethau i’r pum canolfan yn Ngogledd Gorllewin Gwynedd a phoblogaeth o dros 2000 sydd wedi eu cysylltu a Fangor:

Canolfan                      Gwasanaeth              Bws olaf                   Nifer o fwsus wedi 18:00

Caernarfon ……………..Arriva 5………………………..22:45……………………….8

Bethesda …………………Arriva 67A …………………..22:45……………………….7

Gerlan………………………Arriva 67A …………………..22:45……………………….6

Y Felinheli ……………….Arriva 5………………………..22:45……………………….8

Llanberis………………….Express 85 …………………..17:45……………………….0

Sefydlwyd y ddeiseb gan Alan Crawshaw, Deiniolen, ac mi fydd yn cael ei anfon i Alun Ffred Jones AC a Express Motors. Rydym yn chwilio am 1000 o lofnodion i ddangors cryfder teimlad lleol am yr angen am y gwasanaethau gwledig yma. Os fyddwch am ymuno ewch i’r cymal canlynol; http://tinyurl.com/men85nr er mwyn llofnodi, gan rhoi rheswm os fyddwch eisiau.

Arwyddwch fan hyn