Llais i ddyfodol yr Wyddfa

Datganiad i’r wasg gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Mewn cyfres o gyfarfodydd yn ystod yr wythnosau nesaf fydd yn arwain at un gynhadledd fawr ym mis Tachwedd, bydd cyfle i drigolion a busnesau lleol fynegi barn ar faterion sy’n ymwneud â rheoli mynydd mwyaf eiconig Cymru, yr Wyddfa.

Wrth i’r nifer o ymwelwyr i’r ardal leihau yn ystod y misoedd nesaf, cynyddu fydd y gwaith o warchod yr Wyddfa. Rhwng rŵan a’r Nadolig, bydd cyfle i bawb sydd â diddordeb yn yr Wyddfa fynegi barn, rhannu syniadau ac ystyried materion yn amrywio o gadwraeth, ffermio, mynediad, cod cefn gwlad, cyfleusterau i ymwelwyr a ffyniant yr economi leol.

Helen Pye, Uwch Warden Awdurdod y Parc Cenedlaethol yng Ngogledd Eryri sy’n esbonio ymhellach:

“Mae’r Wyddfa yn fynydd sydd â lle arbennig yn ein calonnau ni i gyd a thros y flwyddyn ddiwethaf, drwy sgwrsio â phobl, mae’n amlwg i mi fod hwn yn fynydd nad oes mo’i debyg. Mae gan bobl farn gref ac angerddol ar sut y dylem ni fod yn ei reoli a gofalu amdano. I mi, mae hyn yn wych. Bydd, mi fydd hi’n heriol tafoli safbwyntiau pawb ar sut a beth ddylid ei wneud, ond dwi’n hyderus, drwy weithio gyda’n gilydd, y gallwn ni gydbwyso anghenion hamdden, ffermio a chadwraeth, wrth warchod a gwella’r mynydd ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

Yn gynharach eleni, fe ddaeth yr Awdurdod â sefydliadau a busnesau sy’n ymwneud â rheoli’r mynydd at ei gilydd i ffurfio Partneriaeth yr Wyddfa. Mae aelodau’r Bartneriaeth yn cynnwys cynrychiolwyr o Awdurdod y Parc Cenedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cymdeithas Eryri, Cynghorau Gwynedd a Chonwy, cwmni Rheilffordd yr Wyddfa, Cyfoeth Naturiol Cymru, Fforwm Mynediad y Gogledd, Eryri Bywiol yn ogystal ag undebau ffermwyr a’r timau achub lleol. Mae’r rhain i gyd yn sefydliadau sy’n ymwneud yn ddyddiol mewn rhyw fodd neu’i gilydd â rheoli’r mynydd, boed yn gynnal a chadw llwybrau, gwaith gwirfoddol, hybu twristiaeth, ffermio defaid a gwartheg, gwaith cadwraeth neu achub. Pwrpas y Bartneriaeth yw sicrhau ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i reoli’r mynydd yn effeithiol, a’n bod, drwy ymgynghori eang, yn sicrhau sêl bendith gan bawb ar sut mae ei reoli.”

Ar ddechrau’r ymgynghori, mae nifer o sesiynau galw i mewn wedi eu trefnu i gasglu barn pobl, sef

  • Dydd Llun, 5 Hydref 2 – 7 yh Canolfan Groeso Hebog, Beddgelert
  • Dydd Llun 12 Hydref, 2 – 7 yh,  Tafarn y Snowdonia Parc, Waunfawr
  • Dydd Mercher 14 Hydref 2 – 7, Mynydd Gwefru, Llanberis

Yna, ar noson y 9fed o Dachwedd yng Ngwesty’r Royal Victoria, Llanberis cynhelir cynhadledd i drafod a phwyso a mesur yr awgrymiadau a’r sylwadau a roddwyd yn y sesiynau galw i mewn, ynghyd â chynnal trafodaethau pellach ar y ffordd orau i reoli’r mynydd yn y dyfodol.

Am fwy o fanylion, ewch i wefan y bartneriaeth: www.partneriaethyrwyddfa.co.uk
neu cysylltwch â: Helen Pye ar 07766 255 505 / 01766 772 232 neu Helen.pye@eryri-npa.gov.uk

Comments are closed.