Postcode Community Trust yn ein cefnogi unwaith eto!

Rydym yn falch iawn o dderbyn gwobr o £20,000 oddi wrth Postcode Community Trust, elusen sy’n rhannu grantiau a ariennir yn gyfan gwbl gan chwaraewyr Loteri Cod Post y Pobl. Roedd Postcode Community Trust yn ariannwr hynod o gefnogol a hyblyg ledled y pandemig ac rydym yn ddiolchgar ac yn hynod falch o gael cydweithio efo nhw eto.

Aiff yr arian hwn tuag at gefnogi ein gwaith cadwraeth ymarferol a helpu pobl i ddarganfod ac ymwneud â thirluniau a bywyd gwyllt arbennig Eryri. Bydd llwybrau’n cael eu trwsio, rhywogaethau ymledol yn cael eu clirio a chynefinoedd yn cael eu rheoli’n well dros fywyd gwyllt. Byddwn hefyd yn buddsoddi yn ein gwirfoddolwyr drwy ddarparu cyfleoedd hyfforddi cyffrous!  Cysylltwch am fwy o wybodaeth ar sut i gymryd rhan a rhoi rhywbeth yn ôl i Eryri.

Gyda diolch i:

Comments are closed.