Wythnos gwirfoddoli – Help llaw i Eryri!

Cynhaliwyd Wythnos Gwirfoddolwyr rhwng 4 ac 8 Mehefin eleni, a bu’n llwyddiant ysgubol – oherwydd y tywydd hyfryd y gwnaethom ni ei fwynhau ac oherwydd rhesymau eraill hefyd! Fe wnaeth 15 o unigolion gyfranogi a gweithio cyfanswm aruthrol o 370 wythnos mewn un wythnos yn unig. Roedd eu tasgau yn ystod yr wythnos yn cynnwys casglu sbwriel a chynnal llwybrau, clirio rhododendron, codi ffensys ac adeiladu arwyddbyst.

Hyfforddiant Achrededig:

Cafodd y gwirfoddolwyr gyfle hefyd i gyfranogi yn ein huned a achredir gan Agored Cymru: Sgiliau Cadwraeth Ymarferol Dywed Owain Thomas, Swtddog Prosiect Cymdeithas Eryri: “mae’r cwrs hwn yn estyniad o’n hymroddiad tymor hir i roi rhywbeth yn ôl i wirfoddolwyr sy’m rhoi eu hamser a’u hymdrechion i ofalu am Eryri. Cynigir yr hyfforddiant a’r achredu yn rhad ac am ddim i’n gwirfoddolwyr.” Gwyliwch am fanylion ein dyddiadau cychwyn nesaf, a gaiff eu cyhoeddi yn fuan!

Beth oedd barn ein gwirfoddolwyr?

Mae’r wythnos gydan wedi bod yn ddifyr iawn, ac rwy’n credu fod gen i well syniad o’r mathau o swyddi sydd ar gael yn y sector cadwraeth. Mae’r Gymdeithas yn gyfeillgar iawn, ac mae’n wych gallu cwrdd â gwirfoddolwyr o’r un anian. Yn gyffredinol, mae wedi fy ysbrydoli i barhau i wirfoddoli, ac fe hoffwn i gael rhagor o brofiad o wneud amrywiaeth helaeth o weithgareddau.”

Rwyf i wedi mwynhau fy hun yn fawr yn ystod y cwrs cadwraeth ymarferol. Fe wnaeth yr amrywiaeth helaeth o weithgareddau yn ystod yr wythnos gynnig cipolwg i mi ar y gwahanol weithgareddau ac asiantaethau cadwraeth.

Diolch yn fawr!

Dywed Dan Goodwin, Swyddog Prosiect Cymdeithas Eryri “Diolch o galon i’r holl wirfoddolwyr a weithiodd yn galed i sicrhau fod yr wythnos yn llwyddiant; heb eu gwaith a’u hymrwymiad, ni fyddai ein gwaith yn bosibl.

Diolch arbennig i’n sefydliadau partner a’n hariannwyr am helpu i wireddu’r gwaith pwysig:
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, yr Ymddiriedolaeth Coedlannau, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru a Kehoe Countryside.

      

Comments are closed.