Werth bryncyn o ffa: mae Providero Coffee wedi ymaelodi â Chymdeithas Eryri fel Aelod Busnes

Werth bryncyn o ffa: mae Providero Coffee wedi ymaelodi â Chymdeithas Eryri fel Aelod Busnes

Mae ‘Providero Fine Teas and Coffees’ wedi ymuno â llu o fusnesau annibynnol sy’n cefnogi gwaith Cymdeithas Eryri o warchod y Parc Cenedlaethol.

Cynhelir y siopau coffi yn Llandudno a’r Gyffordd gan y ddau entrepeneur lleol Jon ac Allie a ddywedodd: “Rydym yn hoff o Eryri ac yn edmygu’r gwaith a wneir gan Gymdeithas Eryri gyda gwirfoddolwyr i gadw’r ardal yn hardd. Ein dymuniad yw bod Providero yn cefnogi’r achos amgylcheddol felly rydym wedi buddsoddi ein harian wrth ymaelodi fel Aelodau Busnes.”

Meddai Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, John Harold: “Rydym yn gweld nifer cynyddol o fusnesau lleol ac annibynnol sy’n dymuno gwneud eu rhan dros Eryri ac rydym yn falch iawn mai Jon ac Ellie o’r cwmni Providero yw’r diweddaraf i ymaelodi.”

Ychwanegodd: “Diolch i’n haelodau mae gennym yr adnoddau i gynnal rhaglen brysur o waith cadwraeth ymarferol yn y Parc Cenedlaethol felly rydym yn hynod o ddiolchgar i’r unigolion, y cyrff a’r busnesau sy’n helpu i wireddu hyn.” 

Os hoffech fod yn rhan o’r rhestr gynyddol o fusnesau lleol sy’n gwneud eu rhan dros Eryri, yna llofnodwch i ymaelodi fel Aelod Busnes heddiw

Comments are closed.