Cynnal a chadw llwybrau troed ar yr Wyddfa dros y gaeaf

Mae cynnal a chadw llwybrau bob amser yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac wedi un o’r hafau prysuraf a gofnodwyd yn y Parc erioed, mae angen cryn waith ar y llwybrau! Ar ddydd Iau oer ym mis Ionawr, buom yn cydweithio gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i agor y draeniau ar lwybr Llanberis, yr Wyddfa. Diolch i waith da pawb llwyddwyd i glirio’r draeniau i gyd hyd at hanner ffordd i fyny’r mynydd! 

Mae agor y draeniau yma sydd wedi llenwi yn waith hynod o werthfawr gan ei fod yn galluogi’r lefel uchel o law ar y mynydd i lifo un ai wrth ymyl y llwybr neu oddi tano heb ei erydu. Mae’r dyddiau gwaith cynnal a chadw yma’n arbed miliynau o bunnoedd mewn costau trwsio ac yn lleihau’r difrod i gynefinoedd pwysig y mynydd o’u cwmpas. Ni fyddai’n ddigwyddiad Cymdeithas Eryri heb gasglu sbwriel ar rhyw bwynt, a doedd y diwrnod hwnnw ddim yn eithriad, gan i ni lenwi nifer o fagiau bin yn sydyn cyn gadael y mynydd, yn hyderus ein bod wedi ei adael mewn gwell cyflwr nag ar ddechrau’r diwrnod.  

Fel erioed cafwyd croeso cynnes gan Steffan yng nghaffi Pen Ceunant Isaf gyda bara brith, te a choffi’n dod a’r dydd i ben yn berffaith – diolch, Steffan, roedd yn flasus ac yn fawr ei angen! 

I gau pen y mwdwl, daeth criw Countryfile i ffilmio’r gwaith da yr oeddem yn ei wneud! Cofiwch edrych ar y rhaglen deledu cyn bo hir i weld lluniau o’ch gwaith yn cael eu ddarlledu. 

Mewn partneriaeth â:

Comments are closed.