Yr hyn yr ydym wedi’i ddysgu am leihau plastig un-defnydd

Flwyddyn yn ôl fe ddaru ni ddweud wrth ein hargraffwyr nad oedden ni eisiau lapiadau plastig wrth bostio ein cylchgrawn. Fe ofynnon ni a fyddai hi’n bosib iddyn nhw ddefnyddio’r lapiadau newydd y gellid eu compostio. Dywedodd yr argraffwyr na fydden nhw. Felly ddaru ni dderbyn y gost ychwanegol ac anfon cylchgrawn Hydref 2018 i aelodau mewn amlen bapur ailgylchedig.

Ar ddechrau’r flwyddyn hon cysylltodd yr argraffwyr i ddweud eu bod bellach yn gallu cynnig lapiadau y gellir eu compostio. Roeddem yn falch o dderbyn y cynnig. Felly roedd yn siomedig iawn yr wythnos yma i weld cylchgrawn y Gwanwyn yn cyrraedd mewn rhywbeth oedd yn debyg iawn i lapiad plastig. Ar ôl cysylltu â’r argraffwyr, cawsom yr ymateb yma:

“I have looked into it and sorry to say that the Compostable wrapping has not been used as
you required and as stated on our job bag in numerous positions. As its a job they have done
on numerous occasions in the past it’s obvious they did not pick up on the change of
wrapping. I have created a customer complaint in our system where an investigation will take
place to ascertain how it happened and put processes in to make sure it does not happen
again. Apologies for the inconvenience this has caused you.”

Rydym yn anfon yr ymddiheuriad yna ymlaen i chi. Mae’n ddrwg gennym na weithiodd hyn y tro yma, ond rydym hefyd yn hyderus y dylai weithio o hyn ymlaen.

Felly pa wersi rydym ni wedi eu dysgu?

Os na ofynnwch chi, gewch chi ddim. Rydw i’n amau nad Cymdeithas Eryri oedd yr unig gwsmer i ofyn am lapiadau y gellir eu compostio, ond mae’n debyg na wnaeth o gymryd llawer mwy i symud yr ateb o ‘Ddim yn bosib’ i ‘Gallwn’,

Fe all dewis arall gostio mwy i ddechrau. Ddaru ni benderfynu derbyn y gost, ond wrth i’r dewis arall ddod yn ddewis y mwyafrif dylai’r gwahaniaeth yn y gost leihau.

Weithiau, y rhwystr i newid yw grym arferiad. Mae’n debyg y gall pob un ohonom feddwl am enghreifftiau o’n bywydau ein hunain. Mae ein hargraffwyr yn bobl broffesiynol ac mae’n debyg mai camgymeriad syml, o arfer gwneud rhywbeth rhyw ffordd arbennig, a arweiniodd at y camgymeriad yma.

Pan nad yw newid yn digwydd, holwch pam. Pobl yw’r cysylltau yn y gadwyn gyflenwi. Mae angen i ni sicrhau bod y neges yn cyrraedd pen ei thaith – bod hyn yn bwysig a bod angen i ni sicrhau ein bod yn ei wneud yn iawn.

Rydym yn gobeithio y byddwch yn ymuno â ni wrth edrych ymlaen at y rhan fach hon o’r pos plastig. Hoffem hefyd glywed oddi wrthych chi os oes gennych stori leol am wneud newid positif ar blastig un-defnydd. Fe all fod yn stori o lwyddiant neu’n enghraifft lle nad yw pethau wedi gweithio fel y dylien nhw, cyn belled â’i fod yn taflu goleuni ar yr her fawr hon yr ydym i gyd yn ei rhannu.

Comments are closed.