Beth ydym ni’n hoffi ei wneud fel arfer ym mis Mehefin!

Mae’r wythnos wirfoddoli wedi bod yn nodwedd yng nghalendr Cymdeithas Eryri ers ei lansiad yn 2015. Cynhelir y digwyddiad hwn, sydd bellach yn flynyddol, yn wythnos gyntaf mis Mehefin ac mae staff a gwirfoddolwyr yn edrych ymlaen yn arw ato. Mae’n hynod o boblogaidd gyda’n gwirfoddolwyr ac mae’r lle’n llenwi’n gyflym. Fel arfer, mae gwirfoddolwyr yn treulio wythnos (braf, gobeithio) yn cymryd rhan mewn gorchwylion cadwraeth ymarferol ledled Eryri. Yn ystod wythnosau gwirfoddoli’r gorffennol cynigiwyd cyfleoedd i roi cynnig ar:

  • Gynnal a chadw llwybrau
  • Casglu sbwriel
  • Clirio jac-y-neidiwr
  • Clirio rhododendron
  • Rheoli coedlannau
  • Cynnal a chadw offer
  • Gwaith coed a phren
  • Garddio bywyd gwyllt
  • Glanhau traethau

 

Yn 2018 a 2019, gweithiodd gwirfoddolwyr dros 370 awr yn ystod yr wythnos ac roeddem yn edrych ymlaen at wythnos lwyddiannus arall yn 2020. Eleni, roedd gwirfoddolwyr yn mynd i reoli coedlannau a dolydd blodau gwyllt, cynnal llwybrau, a chlirio sbwriel ar yr Wyddfa. Fe fydden nhw hefyd wedi cael y cyfle i gwblhau’r hyfforddiant achrededig mewn medrau cadwraeth ymarferol.

Yn anffodus, allwn ni ddim anelu tua’r mynyddoedd ar hyn o bryd, ac er diogelwch pawb mae wythnos wirfoddoli eleni wedi ei gohirio.

Fodd bynnag, roeddem yn dal yn dymuno nodi’r digwyddiad hwn a chymryd y cyfle i ddiolch I’n gwirfoddolwyr am eu cefnogaeth drwy gydol y flwyddyn. Ni fyddai ein gwaith yn bosib heboch chi. Edrychwn ymlaen at gael gweithio’n ymarferol eto cyn gynted ag y bydd yn ddiogel ac at eich gweld i gyd bryd hynny.

Cofiwch ein cefnogi er mwyn i ni allu ail gychwyn ar y gwaith yma pan fydd hynny’n bosib

Comments are closed.