Wyddfa Lân ar restr fer am Wobr!

Mae ein prosiect Wyddfa Lân wedi cael ei gynnwys ar restr fer Gwobr Amddiffynnydd y Parc gan yr Ymgyrch dros Barciau Cenedlaethol.   Fel rhan o brosiect Wyddfa Lân, mae Cymdeithas Eryri yn gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau i weithio tuag at sicrhau gostyngiad sylweddol mewn sbwriel ar yr holl brif lwybrau o’r gwaelod i gopa’r Wyddfa. Byddwn yn ceisio cyflawni hyn trwy:

  • Gadw’r Wyddfa mor lân ag y bo modd; gobeithio, os bydd llai o sbwriel, caiff llai o sbwriel ei daflu.
  • Gwella ymwybyddiaeth am y problemau sy’n gysylltiedig â sbwriel.
  • Defnyddio dyfeisiau cofnodi GPS i fapio lleoliad a chyfanswm y sbwriel; mae hynny’n caniatáu i ni fonitro cynnydd ein gwaith a nodi mannau ble ceir llawer o sbwriel.
  • Ymchwilio i ddulliau eraill o ysbrydoli newid positif mewn ymddygiad.

“Rydym ni wrth ein bodd fod y prosiect gwych hwn a gwaith caled ein gwirfoddolwyr yn cael cydnabyddiaeth trwy gyrraedd rhestr fer Gwobr Amddiffynnydd y Parc” meddai Mary-Kate Jones, Rheolwr y Prosiect i Gymdeithas Eryri.   “Bydd ein gwirfoddolwyr yn mentro ar lethrau’r Wyddfa yn ystod diwrnodau gwaith rheolaidd  gadw’r mynydd eiconaidd hwn yn daclus!  Ni fyddai’r prosiect hwn yn bosibl heb eu gwaith caled.”  Os hoffech chi gyfranogi, cysylltwch os gwelwch yn dda.

Cyhoeddir manylion y prosiect buddugol ym mis Hydref.

Cefnogir Wyddfa Lân gan amrywiaeth o bartneriaid yn cynnwys

  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
  • Rheilffordd yr Wyddfa
  • Caffi Halfway
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Cadwch Gymru’n Daclus
  • Grŵp Siarter Awyr Agored Amgylcheddol Gogledd Cymru
  • RAW Adventures
  • Marathon yr Wyddfa
  • Prifysgol Bangor, trwy brosiect ‘GIFT’ (Green Innovation Future Technologies)
  • Canolfan Newid Ymddygiad Cymru
  • Sefydliad Amgylcheddau Cynaliadwy Cymru (WISE)

Comments are closed.