Tocynnau gwyrdd wedi codi £234

diolch i Waitrose, Porthaethwy

Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi rhoi eu tocynnau gwyrdd ym mocs Cymdeithas Eryri pan yn siopa yn Waitrose ym mis Gorffenaf. Mae’r Gymdeithas wedi derbyn rhodd o £234 erbyn yn!

Enwebwch Cymdeithas Eryri ar gyfer sgimau tebyg

Mae ‘na nifer o gynlluniau o’r fath gan archfarchnadoedd a siopau cornel a gallwch awgrymu achos da i dderbyn yr elw. Felly, ewch ati i enwebi Cymdeithas Eryri iddynt!

5c o dreth ar fagiau plastig

Mae’r holl siopau ac archfarchnadoedd lleol yn dewis achos da i dderbyn yr elw o’r taliad am fagiau plastig, a bydd yn newid yr achos hwn o dro i dro.

Yn 2013, rhoddodd Spar ychydig o dan £780 i Gymdeithas Eryri dan y cynllun hwn. Os ydych yn gofalu am Eryri, siaradwch â’ch siopau lleol a gofyn sut y gallwch ein henwebu.

Fel arall, os ydych yn gwybod am unrhyw gynllun elusen archfarchnad arall o’r fath, rhowch wybod i ni.

Nationwide ‘yn Lleol’

Beth am awgrymu Cymdeithas Eryri i fenterau cyfrannu elusenol Cymdeithas Adeiladu Nationwide:

  • Mae Lleol mawr yn galluogi cwsmeriaid i bleidleisio ar-lein ar gyfer elusen rhanbarthol gwahanol bob mis (fel a enwebwyd gennych chi) i ennill cyfraniad o £5,000.
  • Community Match – mae cwsmeriaid yn pleidleisio yn y gangen dros un o dri achosion lleol (a enwebwyd gennych chi) i ennill rhodd o £500.

Ydych chi’n gwybod am gynlluniau tebyg?

Os ydych yn gwybod am gynlluniau elusen tebyg, rhowch wybod i ni.

Comments are closed.