Gwirfoddolwyr yn Gwneud Gwahaniaeth yn Eryri

Gwirfoddolwyr yn Gwneud Gwahaniaeth yn Eryri

Cafwyd trydydd penwythnos blynyddol Mentro a Dathlu (MaD) Cymdeithas Eryri hynod o
lwyddiannus unwaith eto eleni.

Rhwng dydd Gwener 13 a dydd Sul 15 Medi bu cefnogwyr yn adfer gwarchodfeydd natur, cynnal
llwybrau, casglu sbwriel a chlirio rhywogaethau ymledol er mwyn helpu i wneud gwahaniaeth yn y Parc
Cenedlaethol.

Meddai Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, John Harold: “Rydym wrth ein bodd bod 125 o gefnogwyr – y
mwyaf eto – wedi dod o bell ac agos, rhai am y drydedd flwyddyn yn olynol, er mwyn sicrhau llwyddiant
y penwythnos. O ganlyniad, treuliwyd 615 awr yn cefnogi ein Parc Cenedlaethol, gyda 10 o gyrff sy’n
bartneriaid yn cydweithio yn y dathliad blynyddol hwn o wirfoddoli.”

Bu llawer o’r gwirfoddolwyr yn gwersylla o dan y sêr hefyd dros y penwythnos a mwynhau taith natur, gweithdy astronomeg, gwledd awyr agored a cherddoriaeth fyw gyda’r nos.

Ychwanegodd John: “Rydym yn ddyledus i’n gwirfoddolwyr gwych a’n partneriaid project am sicrhau bod
penwythnos Mentro a Dathlu (MaD) yn ddigwyddiad mor ysbrydoledig”.

Beth ddywedodd ein partneriaid:

Fel busnes sy’n gweithredu ar lannau Llyn Padarn rydym yn gallu gweld y pwysau a roddir ar y lleoliad yn
ystod misoedd yr haf. Mae cefnogi penwythnos MaD yn gyfle arbennig i ni roi rhywbeth yn ôl i achos mor
werth chweil: eleni fe ddaru ni roi benthyg ein canŵau Canada i grŵp o wirfoddolwyr MaD i’w galluogi i
glirio sbwriel nad yw’n hawdd cael gafael arno o’r llyn.

Chris Thorne, Snowdonia Watersports

Fel prosiect newydd roedd Coedwigoeddd Glaw Celtaidd Cymru yn falch iawn o gymryd rhan ym mhenwythnos MaD, a diolch anferthol i’r gwirfoddolwyr wnaeth ein helpu i glirio ½ acer o rhododendron ponticum. Roedd y maes gwersylla hyfyrd a’r gwirfoddolwyr cyfeillgar yn gwneud penwythnos gwerth chweil. Edrychwn ymlaen at flwyddyn nesaf!

Llinos Alun, Swyddog Ymgysylltu Prosiect Coedwigoedd Glaw LIFE 

Ychwanegodd ein grŵp bedair coeden newydd i’r Fynegai Coed Hynafol a gobeithio y bydd rhai o’n
gwirfoddolwyr yn cael eu hysbrydoli i ddod yn Wyddonwyr Breswylwyr a chofnodi byd natur yn eu hardal
eu hunain! Mae’n dda bob amser gweld brwdfrydedd ein gwirfoddolwyr dros ein bywyd gwyllt a’n
tirluniau: gobeithio eu bod wedi mwynhau’r diwrnod ac wedi dysgu rhywbeth am ein coed a’n
coedlannau trawiadol.

Kylie Jones Mattock, Coed Cadw

Digwyddiad gwir bositif, go dda bawb! Roedd yn ddiwrnod gwych ac roedd y tywydd yn braf a heulog,
gyda chymysgedd o bobl leol a phobl o bob cwr o’r DU yn dod ynghyd dros gadwraeth. Roedd llawer o
ddiddordeb yn ffermdy Llenyrch a dyfodol y safle. Buom yn gweithio gyda chontractwyr y stad, Keyhoe
Countryside, i gynhyrchu 20 o flychau adar ac ystlumod, gan ddefnyddio pren a gynaeafwyd ar ein
safleoedd. Yn ddigwyddiad poblogaidd a gwych ar gyfer pob oedran, rŵan byddwn yn gweithio i osod y
blychau a monitro’r bywyd gwyllt (gyda Chymdeithas Eryri, mae’n debyg, yn ystod ein grwpiau gwaith
misol). Rydw i’n edrych ymlaen at MaD 2020!

Ed Midmore, Coed Cadw

Comments are closed.