Gwirfoddolwch am ddiwrnod ac fe gewch chi ginio am ddim!

Gwirfoddolwch am ddiwrnod ac fe gewch chi ginio am ddim!

Mae angen byddin o stiwardiaid gwirfoddol ar gyfer y her flynyddol Fabian4 Dyffryn Conwy Mountain Challenge, a gynhelir ddydd Sul 9 Medi yn Nyffryn Conwy. 

Bydd y digwyddiad epig hwn yn cynnwys rhannau rhedeg, beicio a chaiacio, ac mae angen tîm o stiwardiaid gwirfoddol ar hyd gwanhaol rannau o’r llwybr i helpu i roi arweiniad i’r cyfranogwyr dewr.  Mae’r ras yn ystyriol iawn o’r amgylchedd, ac hyd yn hyn wedi codi cyfanswm gwych o £4,000 i Gymdeithas Eryri.

Dywedodd y trefnwyr Ellie ac Adrian: “Byddem ni’n ddiolchgar iawn am unrhyw gymorth y byddai unigolion yn gallu ei roi i ni.  Hyd yn oes os gallwch chi gyfranogi am ddwy awr yn unig, bydd tasg i chi! Hysbyswch unrhyw bobl o’r un anian rydych yn eu hadnabod – darpar gynorthwywyr a darpar gystadleuwyr fel ei gilydd – mae arnom ni angen eich brwdfrydedd a’ch cymorth fel yn flaenorol, a byddem yn gwerthfawrogi hynny.”

Cinio am ddim

Bydd pryd poeth o fwyd a gwydriad o gwrw lleol Bragdy Nant ar gael i bob stiward ar y diwedd ym mhencadlys y ras. E-bostiwch claire@snowdonia-society.org.uk i fynegi eich diddordeb a helpu i sicrhau fod digwyddiad eleni yn llwyddiant ysgubol arall.

Comments are closed.