Tŷ Hyll yn cyrraedd tudalennau’r arweinlyfr teithio ‘Lonely Planet’

Tŷ Hyll yn cyrraedd tudalennau’r arweinlyfr teithio ‘Lonely Planet’

Mae eiddo arddangosiadol Cymdeithas Eryri, Tŷ Hyll, wedi cyrraedd argraffiad newydd sbon o Lonely Planet am 2019.

Cyhoeddir hanes yr eiddo rhestredig gradd II, ei ystafell de, gardd fwyd gwyllt a phedair erw o goedlan yn argraffiad rhif 13 Arweiniad Teithio Lonely Planet Prydain.

Meddai Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, John Harold:

“Rydym yn hynod o falch bod ein meddiant eiconig wedi cyrraedd y rhifyn hwn o Lonely Planet! Gobeithiwn y bydd hyn yn dod a mwy o amlygrwydd i’n gwaith cadwraeth ymarferol yn Nhŷ Hyll ei hun a ledled y Parc Cenedlaethol.”

Mae eich angen CHI ar Tŷ Hyll

Hoffech chi helpu i gynnal y trysor rhyfeddol hwn yn Eryri? Ymunwch â’n Swyddog Project Dan bob dydd Mawrth olaf y mis ar ein Dyddiau Gwirfoddoli poblogaidd yng nghoedlan Tŷ Hyll. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i gofrestru eich diddordeb.

I wneud cyfraniad i Gymdeithas Eryri, cliciwch yma

Comments are closed.