Treth etifeddiaeth

Peidiwch â’i roi i’r dyn treth! Rhowch o i’ch hoff achos!

Ar ddiwedd 2016, derbyniodd y Gymdeithas Eryri nifer o gymynroddion hael gan ffrindiau a chyn-aelodau, ac yr ydym yn hynod ddiolchgar amdanynt.

Ond oeddech chi’n gwybod bod y gyfradd treth etifeddiant ar stad yn cael ei leihau o 40% i 36%, os yw 10% o’r rhan berthnasol o’r ystâd yn cael ei roi i elusen?

Amrywio ewyllys ar ôl i rywun farw

Ar ben hynny, os ydych yn meddwl rhoi cyfraniad i elusen allan o gymynrodd ydych wedi ei dderbyn yn ddiweddar neu ar fin cael, gallwch amrywio’r ewyllys hyd at 2 flynedd ar ôl i anwylyd farw, er mwyn gwneud defnydd o gyfradd is o dreth etifeddu. Drwy fforffedu ychydig bach o eich budd-dal, gallai eich hoff elusen dderbyn llawer mwy.

Darllenwch y hanes engreifftiol canlynnol…

Mae Anita yn fforffedu £4,800 er mwyn i elusen dderbyn £20,000

Wrth ddarllen ewyllys ei thad ar ôl ei farwolaeth, roedd Anita yn synnu nad oedd sôn yno am gymynroddion. Roedd ei thad wedi cefnogi achosion amgylcheddol ar hyd ei oes ac wedi annog Anita i wneud yr un fath.

Cafodd ei synnu hefyd i ddarganfod y byddai angen talu Treth Etifeddiaeth (TE) oherwydd chwyddiant yng ngwerthoedd tai.

Soniodd Anita , yr unig fuddiolwr, y diffyg cymynroddion elusennol i’w chyfreithiwr, gan ychwanegu y byddai’n rhoi ei rhodd ei hun o’i hetifeddiaeth.

“Gallaf awgrymu gwell dewis,” meddai’r cyfreithiwr. “Os wnewch chi newid ffurf yr ewyllys i roi 10% o ran drethadwy’r stad i elusen, byddwch yn talu dim ond 36% TE yn hytrach na 40%. Bydd eich etifeddiaeth ychydig yn llai, ond bydd elusen yn elwa llawer mwy.”

O ystyried y disgwylid i werth y stad fod yn £525,000, eglurodd y byddai ei dewis elusen yn gallu derbyn £20,000*, pe bai hi’n fforffedu dim ond £4,800 o’i budd. Gan ei bod wedi bwriadu rhoi £5,000 i elusen o’i hetifeddiaeth, sylweddolodd Anita y byddai hyn yn ddull llawer mwy effeithiol o roi, a phenderfynodd y byddai’n gwneud amrywiad elusennol ar yr ewyllys.

Wrth gwrs, byddai’r un raddfa ostyngol wedi bod yn berthnasol pe bai ei thad wedi rhoi o leiaf 10% o’i stad net ef i elusen.

Os ydych chi’n debygol o etifeddu, os ydych chi wedi etifeddu’n ddiweddar, neu os ydych chi’n bwriadu ysgrifennu eich ewyllys, pam na wnewch chi fanteisio ar TE ar y raddfa ostyngol a gwneud gwahaniaeth enfawr i achos sy’n agos at eich calon? Yn yr un modd, os ydych chi eisoes wedi ysgrifennu eich ewyllys, gallwch ychwanegu gweithred o amrywiaeth i sicrhau’r un effaith.

Rhagor o wybodaeth

Inheritance Tax reduced rate calculator
Post death charitable variation

* Mae amodau’n bodoli; argymhellwn eich bod yn ymgynghori â chyfreithiwr.
Nid yw Anita yn bodoli fel unigolyn a lluniwyd y stori i ddisgrifio sefyllfa bosibl.

Comments are closed.