Tra bod yna bryder am or-dwristiaeth, fydd rhai sy’n caru Eryri yn cymryd rhan mewn penwythnos wyllt o wirfoddoli
Dros y penwythnos olaf ym mis Awst bydd ugeiniau o bobl sy’n frwdfrydig am yr awyr agored allan ym mynyddoedd a chefn gwlad Eryri. Ond fyddan nhw’n dod nid i gerdded neu ddringo, ond i gyflawni tasgau cadwraeth ymarferol i helpu i warchod a diogelu’r Parc Cenedlaethol fel rhan o Benwythnos Mentro a Dathlu – neu Mad Cymdeithas Eryri.
Fydd y gweithgareddau’n cynnwys sesiwn casglu sbwriel mewn canŵs, arolwg ymlusgiaid ac amffibiaid, cynnal a chadw llwybrau, sesiwn codi sbwriel eithafol ar yr Wyddfa, tynnu Rhododendron, sesiwn casglu sbwriel sy’n addas i deuluoedd a gweithdy ar gofnodi coed hynafol a nodedig ar y rhestr o goed hynafol. I ddifyrru’r gwirfoddolwyr a’u cadw’n hapus, fydd yna gerddoriaeth fyw gyda’r nos gyda’r band lleol Tacla, taith gerdded meddwlgarwch, gweithgareddau natur sy’n addas i deuluoedd a helfa drysor.
“Rydym yn trefnu digwyddiadau gwirfoddoli trwy gydol y flwyddyn”, meddai Jen Willis, Swyddog Digwyddiadau a Gwirfoddoli’r Gymdeithas. “Y llynedd gwnaeth ein gwirfoddolwyr 5,620 o oriau o waith, casglwyd 1,500kg o sbwriel o’r mynyddoedd a chefn gwlad a chynnal a chadw 30km o lwybrau troed. Un o’r pethau gwych am y Penwythnos MaD yw ei fod yn agored i bawb. Hwn fydd y 7fed penwythnos MaD inni ei drefnu. Rydyn ni’n parhau i drefnu mwy oherwydd fod y gwirfoddolwyr yn dweud wrthym faint maen nhw wedi ei fwynhau.”
Un o’r gwirfoddolwyr rheolaidd yw Elsa Gregori o Lundain. Meddai: “Rwyf bob amser wrth fy modd â pha mor drefnus yw’r digwyddiad. Mae’r staff bob amser mor gyfeillgar a chroesawgar. Mae’r gweithgareddau gwirfoddoli yn rhoi cyfle i chi ddysgu a rhoi rhywbeth yn ôl. Mae’r nosweithiau’n fendigedig. Mae’n teimlo fel teulu”.
Gall gwirfoddolwyr wersylla neu aros mewn llety byncws yn Nant Gwynant a theithio i wahanol weithgareddau mewn bysys mini, er mwyn lleihau pwysau ceir ar ffyrdd Eryri. Gall pobl ddod i’r digwyddiadau ar y diwrnod ac osgoi’r angen i aros dros nos. Mae lleoedd ar ôl o hyd y gellir eu harchebu trwy wefan y Gymdeithas yn www.snowdonia-society.org.uk/cy/
Cefnogir y digwyddiad gan Lywodraeth y DU, gyda chyllid sy’n cael ei weinyddu gan Gyngor Gwynedd.