Mae gwarchod natur a’r dirwedd yn allweddol i Dirweddau’r Dyfodol yng Nghymru

Ar ddiwedd Mawrth, fe wnaeth nifer fawr o bobl gysylltu â’u Haelodau Cynulliad ar fyr rybudd, i fynnu fod eu safbwyntiau yn cael eu cynrychioli yn ystod dadl ynghylch ‘Adolygiad o Barciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol’ a gynhelir gan Lywodraeth Cymru.  Gohiriwyd y ddadl wedi i Aelodau’r Cynulliad holi pam nad oeddent wedi cael gweld yr adroddiad perthnasol ynghylch rhaglen ‘Tirweddau Dyfodol Cymru’ Llywodraeth Cymru.

Pryderon ynghylch ‘Tirweddau’r Dyfodol Cymru’

Tra’r oedd y digwyddiadau yn datblygu, daeth yn amlwg fod gan nifer o gyrff cadwraeth bryderon difrifol ynghylch proses Tirweddau’r Dyfodol a sut mae’r adroddiad wedi cael ei ddrafftio. Mae Cymdeithas Eryri yn rhan o Gynghrair Parciau Cenedlaethol Cymru, a ddosbarthodd yr ymateb hwn gan y Gynghrair i adroddiad terfynol Tirweddau’r Dyfodol Cymru Alliance response to Future Landscapes Wales report final.  Cafodd y stori sylw helaeth ar raglenni radio a theledu – gweler dau erthygl gan y BBC:

Beirniadu adroddiad ar ddyfodol parciau cenedlaethol

Angen ‘cyfeiriad clir’ i reolaeth Parciau Cenedlaethol

Nid yw’n syndod fod Aelodau’r Cynulliad yn ystyried hyn yn fater difrifol.  Mae Parciau Cenedlaethol yn sefydliadau annwyl iawn, ac maent yn deillio o’r un ysbryd â Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a sefydlwyd yn 1948. Mae Parciau Cenedlaethol yn rhan o’r ymdrech benderfynol hwnnw i gynllunio at y tymor hir a datblygu byd iachach sy’n cynnig cyfleoedd i bawb – i raddau helaeth, y Parciau Cenedlaethol yw ein ‘GIG Awyr Agored’.

Mae syniad hynod o syml wrth wraidd y Parciau Cenedlaethol: os yw rhywbeth yn hynod o werthfawr i genedlaethau presennol a rhai’r dyfodol, rhaid ei warchod yn gadarn ac yn gyson.   Mae Parciau Cenedlaethol wedi cael eu hadolygu sawl gwaith ac maent wedi goroesi hynny; ychydig iawn o newid sydd wedi digwydd i’w dibenion ers iddynt gael eu sefydlu dan Ddeddf y Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949.

Parciau Cenedlaethol yn cyflawni i Gymru

Nid yw’r grym i ddeddfu yn rheswm dros ddeddfu, ac fe hofwm ni ddwyn y pwynt hwnnw i sylw cadeirydd grŵp Tirweddau’r Dyfodol Cymru.  Yn dilyn ei benodi fel cadeirydd Tirweddau’r Dyfodol Cymru, ysgrifennodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas  wrote “Dyma’r tro cyntaf i ni ein hunain allu diffinio ein tirweddau ein hunai, fel nad oes rhaid i ni gyd-fynd â model Cymru a Lloegr o Barciau Cenedlaethol ac AHNE .”  Hoffem ni weld unrhyw dystiolaeth nad yw Model y Parciau Cenedlaethol yn gweithio i Gymru.  Efallai fod dadl yr Arglwydd Elis-Thomas yn fwy gwleidyddol nag ymarferol, ond dylem ni oll ochel rhag cyfleu ein rhagdybiaethau fel pe baent yn rhagdybiaethau pobl eraill.  Mae llawer o bobl yn teimlo cysylltiad cryf â’r tirweddau eiconig yn sgil eu profiadau eu hunain, ac maent o blaid model y Parciau Cenedlaethol oherwydd mae hynny wedi sicrhau amddiffyniad i’r tirweddau sy’n annwyl iddynt.  Mae tarddiad gwleidyddol a hanesyddol system y Parciau Cenedlaethol yn amherthnasol wrth ystyried y parciau o’r safbwynt hwnnw – yr hyn sy’n bwysig yw eu bod yn cyflawni’r hyn ddylent ei gyflawni.

Mae drafft presennol adroddiad ‘Tirweddau’r Dyfodol’ yn cynnwys cymysgedd o syniadau sydd heb eu llunio yn adroddiad cydlynol.   Mae’n rhoi llawer o bwyslais ar yr angen i arloesi, ond cryn dipyn yn llai ar werth yr hyn sy’n bodoli’n barod.  Mae brawddegau fel y rhain yn peri pryder gwirioneddol: “...dylai tirweddau dynodedig a chyrff cysylltiedig gadw eu hunaniaeth a’u statws cyfreithiol wrth iddynt ddatblygu yn gyrff datblygu rhanbarthol...”.  Mae’n rhaid i ni obeithio nad hyn yw hanfod cynnig Tirweddau’r Dyfodol Cymru – y dylai Parciau Cenedlaethol ac AHNE ddod yn ‘gyrff datblygu rhanbarthol’.

Egwyddor cadwraeth ar goll

Yr hyn sydd ar goll o adroddiad tirweddau’r dyfodol sy’n peri’r pryder mwyaf.  Bwriedid i Dirweddau’r Dyfodol Cymru adeiladu ar waith Adroddiad Marsden ynghylch yr 151020-review-designated-landscapes-report-en.  Fe wnaeth yr Athro Marsden a’i banel ymgynghori’n helaeth, casglu tystiolaeth a llunio adroddiad manwl 250 tudalen a bron iawn 70 o argymhellion penodol.  Casglodd Marsden, ymhlith amrywiaeth o gynigion eraill, y gellir integreiddio amcanion cymdeithasol ac economaidd ymhellach o fewn dibenion Parciau Cenedlaethol ac AHNE, ond mae’n rhaid i newid o’r fath gael ei lywodraethu gan egwyddor cadwraeth gyffredinol, fel Egwyddor Sandford sydd mewn grym ar hyn o bryd, i sicrhau fod rhinweddau arbennig y mannau arbennig hyn yn cael eu gwarchod yn y pen draw.

Egwyddor Sandford

Yn ôl Egwyddor Sandford, pan fydd gwrthdaro anghymodlon yn bodoli rhwng cadwraeth a dibenion a dyletswyddau eraill y Parc Cenedlaethol, dylai cadwraeth fod yn flaenoriaeth bennaf.  Nid yw adroddiad drafft Tirweddau’r Dyfodol Cymru yn cynnwys unrhyw gyfeiriad o gwbl at fecanwaith amddiffyn neu egwyddor debyg i un Sandford er budd harddwch naturiol, y dirwedd a bywyd gwyllt.  Nid yw rhai sefydliadau sy’n rhan o’r broses Tirweddau’r Dyfodol wedi gallu cefnogi’r adroddiad oherwydd mae cadwraeth yn amlwg ar goll o’i weledigaeth.

Mae Llywodraeth Cymru wedi creu’r gallu dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 i gymryd pwerau cynllunio oddi wrth Awdurdodau Parciau Cenedlaethol.  Pe bai Llywodraeth Cymru yn gweithredu hynny ac yn symud ymlaen â’r dibenion newydd heb egwyddor debyg i un Sandford, byddai’n golygu diwedd y Parciau Cenedlaethol fel maent yn gyfarwydd i ni yng Nghymru.  Bydd angen i Lywodraeth Cymru sicrhau ei bod yn ymgynghori’n helaeth ac yn gweithredu’n ddoeth er wyn osgoi’r canlynol:

  • ‘ras i’r gwaelod’ i ganiatáu datblygiadau dilyffethair yn y Parciau Cenedlaethol a’r AHNE
  • Chwalu’r teulu o Barciau Cenedlaethol y mae cenedlaethau wedi mwynhau ym mhob un o’n gwledydd
  • darostwng Parciau Cenedlaethol Cymru i gategori is o Dirweddau Gwarchodedig yn rhyngwladol

Bydd Cymdeithas Eryri yn ailadrodd ei chynnig i gyfrannu’n uniongyrchol at gynllunio i sicrhau dyfodol priodol i dirweddau gwarchodedig Cymru, dyfodol ble bydd eu gwerth i bawb ohonom yn cael ei gydnabod gan gryfder y dulliau o’u hamddiffyn ac ansawdd y dulliau o’u rheoli.

(Delwedd gan Alan Carter)

 

Comments are closed.