Mae hi’n bryd i chi estyn am eich camera: rydym yn lansio ein cystadleuaeth ffotograffiaeth 2021

Mae hi’n bryd i chi estyn am eich camera: rydym yn lansio ein cystadleuaeth ffotograffiaeth 2021

Mae Cymdeithas Eryri wedi lansio ei phedwaredd cystadleuaeth ffotograffiaeth flynyddol ac yn gwahodd ffotograffwyr brwd i anfon eu hoff ddelweddau i mewn erbyn y dyddiad cau, sef dydd Sul 27 Mehefin 2021.  

Dewisir deuddeg llun buddugol a fydd yn cael eu cyhoeddi yng nghalendr y Gymdeithas ar gyfer 2022, sydd ar gael i’w brynu ar-lein o fis Medi ymlaen. Bydd y gwobrau 1af, 2il a 3ydd yn cael eu cyfrannu gan ein Haelodau Busnes i’r tri llun gorau. Gwobrau yn cynnwys noson yn westy Castell Elen Dolwyddelan; fâs artisan o Grochendy Bethesda a thaleb rhodd gan Felin Wlân Trefriw. 

Beirniad y gystadleuaeth eleni fydd yr artist cyfoes o Gymru, Catrin Menai, sy’n arbenigo mewn ffotograffiaeth ddigidol ac analog gyda phwyslais ar le a pherthyn. Meddai Catrin:

“Mae rhyw fath o natur agored yn nhirlun Eryri, ‘cartref’ fel yr ydw i’n ddigon ffodus i’w alw, sy’n cynnig y sêm gyfoethog hon o ddeunydd. Mae’r hyn a wnawn wedyn gyda’r deunydd hwn yn unigryw ac o’n dewis ni. Ar adegau yn y mynyddoedd, mae pethau’n ymddangos am eiliad cyn diflannu, ond mae yma deimlad bob amser eu bod wedi bod yno. Ambell dro mae’r teimlad yn cael ei ddisgrifio mewn llun, er nid pob tro. Rydw i wedi bod yn chwilfrydig erioed am y ffordd y mae artistiaid yn symud trwy hyn: tirlun sy’n gyfnewidiol ond yn ymledol, a sut all camera ymdrin â’r ‘safle ddychmygus’ hon. Ydy hyn yn digwydd? Fel y rhannau lu o amgylch y llun, ymestynnwch …”   

Gwahoddir ymgeiswyr i anfon un ffotograff sydd, yn eu tyb nhw, yn cyfleu Eryri orau.

Anfonwch eich ffotograff mewn fformat tirlun i: info@snowdonia-society.org.uk erbyn hanner nos ar nos Sul 27 Mehefin 2021. Cyhoeddir yr enillwyr ar ddydd Llun 19 Gorffennaf 2021. Gweler telerau ac amodau’r cystadleuaeth yma

Comments are closed.