Meddwl oddi allan i’r blwch (bara sinsir)

Meddwl oddi allan i’r blwch (bara sinsir)

Mae Cymdeithas Eryri wedi ymuno â’r busnes lleol Sweet Snowdonia i gynhyrchu blwch o fara sinsir trawiadol a ysbrydolir gan y tirlun lleol er mwyn codi arian ar gyfer gwaith i warchod y Parc Cenedlaethol.

Mae’r blwch o fara sinsir, sydd wedi ei addurno’n hyfryd, yn cynnwys coed, sêr, plu eira, a chalonnau i gyfleu ymrwymiad Cymdeithas Eryri i warchod rhinweddau arbennig Eryri.

Meddai Caroline Somary, aelod o Gymdeithas Eryri a sefydlydd Sweet Snowdonia: “Cysylltais â’r Gymdeithas gyda’r nod o helpu i gynyddu ymwybyddiaeth am ei gwaith gwych ac i annog mwy o bobl i gefnogi’r achos. Am bob blwch a werthir bydd £1 yn mynd i’r Gymdeithas ac, er nad ydy hynny’n swnio’n llawer iawn, gobeithiaf gynyddu faint o bobl fydd yn gwybod am yr elusen leol bwysig hon.”

Meddai Claire Holmes, Swyddog Ymgysylltu Cymdeithas Eryri: “Rydym wedi ein cyffroi’n fawr gan y project hwn, ac yn falch ein bod wedi digwydd taro ar draws Caroline yn Ffair Fêl Conwy flwyddyn yn ôl. Gobeithiwn y bydd mwy o bobl greadigol yn gwneud yr un fath ac yn cefnogi ein gwaith yn Eryri gyda syniadau gwreiddiol i godi arian.”

Mae pob blwch yn cynnwys oddeutu 25 darn o fara sinsir* ac yn costio £10.75, gyda chyfraniad o £1 yn mynd i’r Gymdeithas am bob blwch a werthir. Mae’r blychau’n anrheg Nadolig perffaith a gellir eu harchebu drwy wefan Cymdeithas Eryri yma: www.sweetsnowdonia.com 

I’n haelodau

Cofiwch bicio i mewn i’n Cyfle i Gyfarfod y Gymdeithas yng Nghapel Dinorwig ar ddydd Iau 13 Rhagfyr am banad, sgwrs a’r cyfle i brynu blwch anrheg bara sinsir Cymdeithas Eryri, yn ogystal â mwy o gynnyrch lleol ein Haelodau Busnes Eraill. Gobeithiwn eich gweld yno; cofiwch ymateb i claire@snowdonia-society.org.uk

*Mae’r bisgedi’n addas ar gyfer llysieuwyr a gellir eu cynhyrchu’n ddi-glwten hefyd ar gais.

Comments are closed.