Mae eich angen CHI ar Gymdeithas Eryri

Mae eich angen CHI ar Gymdeithas Eryri

Rhowch rodd o aelodaeth i rhywun hoff ar eu pen-blwydd neu ymaelodwch fel teulu i ddangos eich cefnogaeth i’n gwaith.

Er nad yw ein rhaglen brysur o weithgareddau i wirfoddolwyr a digwyddiadau i aelodau ar waith ar hyn o bryd, bydd yr angen am ein gwaith yn fwy amlwg nag erioed unwaith y bydd y sefyllfa’n newid.

Yr eiliad hon, mae rhywbeth y gallwch ei wneud o’ch cartref i gefnogi ein gwaith yn y Parc Cenedlaethol: ymaelodwch fel aelod o Gymdeithas Eryri heddiw. Mae’n hawdd gwneud hyn ar-lein yma a bydd yn ein galluogi i barhau â’n holl waith cadwraeth ymarferol yn Eryri cyn gynted ag y bydd y sefyllfa’n newid.

Ers yr ynysu rydym wedi gweld cynnydd mewn gwerthiant hadau blodau gwyllt a chyfraniadau drwy gyfrwng ein gwefan. Mae ymaelodi fel aelod yn rhywbeth arall allwch chi ei wneud i sicrhau y bydd yr adnoddau gennym i gasglu sbwriel, trwsio llwybrau a gwarchod cynefinoedd Eryri yn y dyfodol.

Diolch i chi. Edrychwn ymlaen at eich gweld yn fuan,

Cymdeithas Eryri

 

Comments are closed.