Darganfod Bywydau Cyfrinachol Mamaliaid!

Roedd Bywyd Cyfrinachol Mamaliaid yn weithdy ynghylch mamaliaid a gynhaliwyd yn Tŷ Hyll â chymorth gan Dave Thorpe a Sam Dyer o Grŵp Mamaliaid Gogledd Cymru.  Gan ddefnyddio dulliau uwch-dechnoleg a syml, fe wnaeth cyfranogwyr ddysgu am y mamaliaid sy’n ymweld â thiroedd Tŷ Hyll.  Fe wnaeth dyfais canfod ystlumod ‘Anabat’ Sam ddangos cofnod gweledol o seiniau ystlumod. Roedd tiwbiau chwistlod dŵr Dave yn llai llwyddiannus, ond roedd ei gylchoedd cŵyr blas siocled yn boblogaidd ymhlith y llygod a chofnodwyd nifer o farciau cnoi diddorol.  Roedd hi’n wych cael gwybod am fywyd Tŷ Hyll ar ôl i’r holl ymwelwyr ddychwelyd adref…

Comments are closed.