Canlyniadau ein cystadleuaeth ffotograffiaeth 2021

Canlyniadau ein cystadleuaeth ffotograffiaeth 2021

Rydym yn falch o gyhoeddi enwau deuddeg enillydd ein cystadleuaeth ffotograffiaeth Eryri 2021; bydd eu lluniau trawiadol yn cael eu cynnwys yn ein calendr Eryri 2022 i godi arian ar gyfer ein gwaith o warchod y Parc Cenedlaethol. Llongyfarchiadau i:

Richard Jones, Cefin Edwards, Jackie Evans, Nick Pipe, Tom Laws, Chris Yates, Delia Roberts, David Evans, Gerallt Roberts, Owain Thomas, Paul Newell, a Marc Clack.

Aeth y wobr gyntaf i Richard Jones am ei lun ‘Byw ar y Cyrion’. Meddai beirniad y gystadleuaeth, yr arlunydd Catrin Menai:

“Rydw i wrth fy modd efo sut mae’r llun hwn yn fwy na’r dull o’i ffurfio. Mae’n ymddangos fel pe bai wedi ei beintio ac mae hyn yn gwahodd y llygad i edrych, ac edrych eilwaith. Dyna wnes i, a dychwelyd i’w lu o rhigolau a haenau, y math o ffotograff sy’n gwneud i mi deimlo’n ‘fyw’ a llawn o syndod. Bendigedig”! 

Mae Richard yn ennill noson am ddim yng Ngwesty Castell Elen yn Nolwyddelan, sy’n aelod busnes o Gymdeithas Eryri.

Dynodwyd yr ail wobr i Cefin Edwards am ei lun ‘Castell Dolbadarn Mewn Storm’, ac enillodd daleb am £25 gan Felin Wlân Trefriw; aeth y drydedd wobr i Jackie Evans am ei llun ‘Chwarel Lechi Dinorwig’, ac enillodd fâs â luniwyd â llaw gan Grochendy Bethesda.

Hoffai Cymdeithas Eryri ddiolch i bob un o’r 63 ymgeisydd yng nghystadleuaeth eleni; i feirniad y gystadleuaeth Catrin Menai am ddewis y tri llun gorau; i’n Haelodau Busnes am gyfrannu gwobrau; ac i’r partner-gystadleuydd Project Coedwigoedd Glaw Geltaidd LIFE. Bydd y llun a enillodd eu cystadleuaeth, gan Gerallt Roberts, hefyd yn cael ei gynnwys yn y calendr.

Bydd calendr 2022 ar werth ar y wefan yn fuan iawn.

Comments are closed.