Carreg filltir ddeng-mlynedd i Mary-Kate!

Ym mis Ebrill nododd Mary-Kate Jones ddeng mlynedd o weithio gyda Chymdeithas Eryri. Ymunodd â’r staff yn 2012 fel Rheolwr Project ein gweithgareddau gwirfoddoli. Heddiw mae hi’n Reolwr Rhaglen ar dîm staff cadwraeth ymarferol llawer ehangach, ac mae’r twf hynny wedi digwydd yn bennaf o ganlyniad i’w gwaith. Ymysg ei llu o gyfrifoldebau, mae Mary-Kate yn sicrhau ac yn rheoli ariannu, yn datblygu hyfforddiant achrededig ac yn bwrw ymlaen â gwelliannau o ran sut rydym yn gweithio fel cymdeithas ac mewn partneriaeth.

Rydym yn sicr y byddwch yn dymuno ymuno â ni i ddiolch i Mary-Kate am ei chyfraniad i Gymdeithas Eryri ac i Eryri; mae hi wedi chwarae rhan ganolog mewn gwireddu llawer iawn o waith a chyfleoedd dros y degawd ddiwethaf!

Llawer iawn o waith a phenderfyniad, gwên, a llygad ar y dyfodol.  Diolch i ti, Mary-Kate!

Comments are closed.