Rydym yn ffarwelio â Bethan a adawodd y Gymdeithas ym mis Mai i gychwyn swydd newydd fel un o wardeiniaid tymhorol Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Dymunwn bob llwyddiant iddi hi yn y dyfodol ac rydym yn ddiolchgar iddi am ei holl waith caled yn rhedeg cyfres o ddigwyddiadau gwych yn Nhŷ Hyll yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Da iawn Bethan!
Rydym yn falch o groesawu aelod diweddaraf ein tîm, sef Tamsin Fretwell, sydd wedi cael ei phenodi yn Swyddog Prosiect Tyfu Tŷ Hyll. Mae gan Tamsin brofiad helaeth iawn: o’r gwaith ymarferol o reoli gwarchodfeydd i drefnu llawer o ddigwyddiadau i’r cyhoedd. “Bydd rhywbeth ar gael i bawb” meddai Tamsin, pan ofynnwyd iddi am ei chynlluniau, “o helfeydd chwilod i blant i hyfforddiant ffurfiol i ddatblygu sgiliau adnabod, rwy’n awyddus i sicrhau fod prosiect Tyfu Tŷ Hyll yn cynnig rhywbeth a wnaiff apelio at bawb!” Cadwch olwg am ragor o fanylion!