Nofio dros Gymdeithas Eryri

Nofio dros Gymdeithas Eryri

Bydd yr aelod Tara Leanne Hall yn nofio’r ras 10k Hurly Burly o’r Bermo i Bwll Penmaen ym mis Medi i godi arian i Gymdeithas Eryri.

Wrth ei bodd yn nofio yn yr awyr agored ac yn wirfoddolwr efo Chymdeithas Eryri, mae Tara yn gyfarwydd â buddion meddyliol a chorfforol treulio amser ym mynyddoedd, llynnoedd a thraethau’r Parc Cenedlaethol a bydd yn codi arian dros Gymdeithas Eryri i helpu i’w gwarchod.

Yn wreiddiol o Eryri, meddai Tara: “Hoffwn ddangos fy nghefnogaeth dros y gymdeithas wych hon sy’n gweithio i warchod tirlun naturiol a bywyd gwyllt y Parc Cenedlaethol lle ges i fy magu. Faint bynnag o arian y byddaf yn ei godi, bydd yn wych dweud fy mod yn nofio dros y Gymdeithas.”

Bydd Tara hefyd yn codi arian i Papyrus UK, elusen sy’n helpu i atal hunanladdiad ymysg yr ifanc. Meddai: “Rydw i’n teimlo fy mod wedi dod i delerau â rhai materion wrth ymwneud gyda fy amgylchiadau naturiol, a dyma pam y byddaf yn codi arian ar gyfer dwy elusen mor werth chweil”.

Meddai Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, John Harold: “Rydym mor falch bod Tara wedi dewis codi arian i Gymdeithas Eryri drwy nofio’r Hurly Burly ym mis Medi a byddwn yn croesi pob dim y bydd yr amodau’n dda ar y diwrnod”.

Mae’r digwyddiad awyr agored cyffrous yn cychwyn yn y Bermo ac yn digwydd yn ystod llanw gwanwynol fydd yn llifo’n gyflym i fyny’r aber; dyna sut y cafodd yr enw Hurly Burly. Mae’r ras yn dod i ben 10km i fyny’r aber ym Mhwll Penmaen.

Cyfrannwch rŵan i ddangos eich cefnogaeth i Tara

Dilynwch ei stori ar Instagram

Comments are closed.