Tara yw ein Swyddog Cadwraeth, felly bydd hi’n gweithio ochr yn ochr â’n gwirfoddolwyr yn ystod llawer o’r dyddiau cadwraeth ymarferol.
Wedi ei magu yn Ffestiniog, mae Tara yn siaradwr Cymraeg rhugl sy’n angerddol am ofalu am amgylchedd naturiol a threftadaeth Eryri. Bu’n gweithio’n agos gyda’r Gymdeithas yn ei rôl flaenorol ar gynllun Partneriaeth Tirwedd y Carneddau APCE. Yn y rôl hon bu’n trefnu dyddiau cadwraeth ochr yn ochr â sefydliadau partner, gan sefydlu perthnasoedd â gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol ac ysgolion, creu deunyddiau addysgol a mwy. Mae hi’n gobeithio annog a chefnogi mwy o bobl i wirfoddoli gyda’r Gymdeithas, yn enwedig o gymunedau ymylol i’w helpu i brofi cyfoeth Eryri.
Mae ganddi gymhwyster Arweinydd Tir Isel ac mae’n gobeithio cymhwyso fel Arweinydd Mynydd, i helpu pobl i ddarganfod y dirwedd tra hefyd yn sicrhau diogelwch. Mae hi hefyd yn arweinydd Ysgol Goedwig, felly peidiwch â synnu o’i gweld hi’n cyflawni pethau creadigol yn yr awyr agored. Mae hi’n mwynhau cerdded, beicio mynydd, nofio yn yr awyr agored a gweithgareddau mwy hamddenol fel ioga a darllen ar ddyddiau glawog.
Mae hi’n gobeithio eich cyfarfod yn ystod un o’r dyddiau gwirfoddoli sydd ar y gweill!
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk