Rob Nicholson

Ymddiriedolwr

Prif swydd Rob yw rhedeg Gwesty Plas Coch yn Llanberis gyda’i wraig Fiona. Plas Coch oedd y busnes cyntaf yn yr ardal i sicrhau gwobr Lefel Aur Yr Wyddfa Di-blastig. Mae cyfrannu at gadwraeth bywyd gwyllt a diwylliant yn Eryri yn rhan o’u cynllun busnes a chydweithio â Chymdeithas Eryri yw’r ffordd fwyaf effeithiol o roi’r cynllun hwnnw ar waith felly mae Rob wrth ei fodd yn ymuno â grŵp o wirfoddolwyr ar ddiwrnod prin i ffwrdd o’i waith!

Mae Rob hefyd yn gweithio efo oedolion gydag anableddau dysgu fel cymhorthydd ac ambell waith (fel Arweinydd Mynydd cymwysedig) mae’n gallu helpu ymwelwyr i ddysgu mwy am ardal hyfryd Eryri sydd mor hoff ganddo. Arferai Rob weithio fel prifathro ac arbenigwr mewn addysg disgyblion plant dan 5 oed ond fel dysgwr Cymraeg mae’r sefyllfa bellach yn dra gwahanol!