Mae prosiect sy’n canolbwyntio ar gynnal a chadw a gwella tirweddau enwog Parc Cenedlaethol Eryri wedi ennill gwobr Clod Arbennig yn Seremoni Wobrwyo Gwobrau Park Protector 2018.
Fe wnaeth ein prosiect gwirfoddol, dderbyn grant o £500 mewn derbynfa yn y senedd neithiwr (17 Hydref).Enillwyd y brif wobr gan brosiect i adfer cynefinoedd corsydd, sef Opening Up Emsworthy Mire, ym Mharc Cenedlaethol Dartmoor.
Caiff y Wobr flynyddol ei threfnu gan Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol i gydnabod, dathlu a chefnogi prosiect sy’n gwneud gwahaniaeth o fewn Parciau Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr.
Fe wnaeth Llywydd Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol, yr actores Caroline Quentin, a Julian Glover, sy’n arwain adolygiad y Llywodraeth o Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol yn Lloegr, gyfarch gwesteion yn y derbyniad.
Dywedodd Mary-Kate Jones o Gymdeithas Eryri: “Mae’n wych fod yr oriau a’r diwrnodau lawer a dreulir gan ein Gwirfoddolwyr gweithgar i gynorthwyo tirweddau hardd Eryri wedi cael eu cydnabod. Gyda’n gilydd, byddwn yn atgyweirio llwybrau troed, yn brwydro rhywogaethau ymledol, yn rheoli cynefinoedd bywyd gwyllt ac yn gwneud cymaint yn rhagor. Diolch o galon i’n partneriaid i gyd. Mae hyn yn lwyddiant i dîm Eryri. ”
Dywedodd Caroline Quentin, llywydd Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol: “Gall Cymdeithas Eryri fod mor falch o’i gwaith, ac rwyf i wrth fy modd yn gweld y Gymdeithas yn ennill y wobr Clod Arbennig.
Mae’r Parciau Cenedlaethol yn asedau cenedlaethol hynod o bwtysig ac mae prosiectau megis Help Llaw yn enghreifftiau gwych sy’n dangos pam ddylem ni oll fentro allan a mwynhau’r rhannau hyfryd hyn o gefn gwlad.”
Dywedodd Stephen Ross o Ymddiriedolaeth Elusennol Ramblers Holidays, noddwyr y Gwobrau: “Rydym ni wrth ein bod yn gweld bod cymaint o bobl yn rhannu ein brwdfrydedd ynghylch harddwch a phwysigrwydd y Parciau Cenedlaethol. Mae Opening Up Emsworthy Mire a Help Llaw yn enghreifftiau gwych o brosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth ledled Cymru a Lloegr.”Hefyd, fe wnaeth Breedon Group gefnogi’r Wobr Clod Arbennig yn hael iawn.
Diolch i’r cyrff sy’n ein hariannu, sef Postcode Local Trust, elusen sy’n rhoi grantiau sy’n cael ei ariannu’n llwyr gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery, Cronfa Partneriaeth Eryri a Sefydliad Garfield Weston.