Cymdeithas Eryri yn derbyn cydnabyddiaeth fel Cyflogwr Chwarae Teg

Rydym yn falch iawn o gael ein gwobrwyo gyda Gwobr Gyflawni: Cyflogwr Chwarae Teg a achredir gan Chwarae Teg. Mae Cymdeithas Eryri yn ymdrechu i sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysedd ar bob lefel o’n gwaith – o fewn ein tîm o staff ac ymddiriedolwyr, ein haelodau a’n gwirfoddolwyr. Mae’r Gymdeithas wedi ymrwymo i fod yn gorff cefnogol sy’n edrych tua’r dyfodol. 

Ers mis Mehefin 2021, mae’r Gymdeithas wedi bod yn gweithio’n ddygn, o dan arweiniad Chwarae Teg* drwy eu rhaglen Cenedl Ystwyth 2, i wneud newidiadau positif sy’n gwneud argraff. Rydym wedi:

  • Astudio deddfwriaeth perthnasol ac ymarfer gorau
  • Datblygu polisïau newydd sy’n gyfeillgar i deuluoedd ac sy’n cael eu gyrru gan gydraddoldeb
  • Edrych tua’r dyfodol wrth ddatblygu polisïau ar niwroamrywiaeth ac ar y mislif a diwedd y mislif
  • Sefydlu ymarfer gorau fel bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysedd yn cael eu cydnabod ledled ein gwaith.

Mae’r ffocws hwn eisoes wedi sicrhau gwir newid:

  • recriwtio llwyddiannus o staff yn seiliedig ar ddiwylliant gweithiol y Gymdeithas.
  • atgyfnerthu ein tîm, llilinio gwaith a rhyddhau amser staff i ganolbwyntio ar flaenoriaethau.
  • gwella darpariaeth a phrofiad i wirfoddolwyr sy’n gweithio gyda ni.

Rydym wedi ennill llawer o’r rhaglen hon o waith ac rydym yn edrych ymlaen at ei datblygu yn y blynyddoedd i ddod. Dyma gychwyn taith i ni. Rydym yn ddiolchgar i Chwarae Teg am eu holl gefnogaeth ac arweiniad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac yn falch iawn o dderbyn eu Gwobr ‘Gyflawni’ Cyflogwr Chwarae Teg.

*Elusen Gymreig yw Chwarae Teg sy’n gweithio i gefnogi datblygiad merched yn y gweithle, yn ogystal â helpu cyrff fel Cymdeithas Eryri i ddatblygu, gwella a mewnosod ymarferion gwaith da.

Comments are closed.