Fforwm aelodau Cymdeithas Eryri mis Ebrill

Llawer o ddiolch i’r rhai a fynychodd y fforwm cyntaf i aelodau ar 13 Ebrill. Cafodd yr aelodau ddiweddariad ar waith eiriolaeth diweddar y Gymdeithas gan y Cyfarwyddwr. Cafwyd trafodaeth ddefnyddiol dros ben i ddilyn a fydd yn helpu i lunio sut rydym yn rhannu gwybodaeth a sicrhau rhan aelodau yn y gwaith pwysig hwn i warchod ein Eryri hoff. 

Byddwn yn hysbysebu’r dyddiadau ar gyfer y digwyddiadau nesaf yn fuan – bydd y rhain yn canolbwyntio ar bynciau unigol mewn mwy o fanylder.

Ymysg y themâu ar gyfer y sesiynau ar y gweill mae:

  • Trafnidiaeth, gydag adolygiad pwysig yn cychwyn yng ngogledd Cymru
  • Gwrthbwyso carbon, gyda phryderon newydd am goedwigaeth planhigfeydd ar raddfa fawr mewn tirluniau dynodedig, wedi ei osod o fewn cwestiwn ehangach ynglŷn â lle mae arnom angen mwy o goed, llai o goed a choed a reolir yn well.
  • Adferiad byd natur lle dylai Parciau Cenedlaethol chwarae rôl arweiniol; yn wir, mae’n rhaid iddyn nhw wneud hyn.

Cofiwch gadw llygad am y sesiynau nesaf a dewch draw – byddwch mewn cwmni da!

Comments are closed.