(Gweler manylion isod – sut fedrwch chi helpu)
Fe wnaethom ni ysgrifennu ynghylch difrod i un o afonydd prydferth Eryri yn ystod y gwaith o adeiladu cynllun trydan dŵr ym mis Mai <http://www.snowdonia-society.org.uk/hydro-power-images-speak-for-themselves/>
Fe wnaeth Parc Cenedlaethol Eryri roi caniatâd cynllunio ar yr amod bod y datblygwr yn dilyn y ‘Datganiad Manwl ynghylch Dulliau, Cynllun Rheoli Amgylcheddol a Chynllun Adfer’ y gwnaethant eu cyflwyno gyda’u cais.
Ond heb caniatâd fe wnaeth Afon Lâs Hydro Power newid llwybr y lein beipiau, dymchwel a difrodi coed, gyrru eu peiriannau trwy afon a chreu hollt enfawr a yrrodd yr afon i lawr eu llwybr mynediad. Fe wnaeth hyn arwain at lygredd yn yr afon yr holl ffordd i lawr at Lyn Padarn, ble gwnaeth swyddogion o Gyfoeth Naturiol Cymru oedd yn ymchwilio i’r digwyddiad dynnu llun o bentwr o silt oedd wedi ymgasglu. Yn dilyn y digwyddiadau hyn, ataliwyd yr holl waith ar y safle gan yr awdurdodau.
Heddiw, mae’r ‘Datganiad Manwl o Ddulliau’ yn debyg i jôc wael, wrth i’r datblygwr gyflwyno fersiwn ddiwygiedig ac ymgeisio am ‘Newid’ yn yr amodau cynllunio er mwyn ceisio cyfreithloni’r difrod maent eisoes wedi’i wneud.
Mae ‘Detailed_Method_Statement.pdf‘ (paratowyd gan North Wales Hydro Power a Gritten Ecology) newydd y datblygwr yn ddogfen hynod sy’n cynnwys amrywiaeth o gyfaddefiadau fod y cynllun blaenorol yn anymarferol ac afrealistig. Mae hefyd yn awgrymu ‘mesurau lliniaru’ a chynigion a fydd yn golygu rhagor o ddifrod, yn cynnwys adeileddau concrid mewn mannau lle mae’r lein beipiau yn croesi llednentydd. Yn anad dim, mae’r ddogfen hon yn gwneud i chi ryfeddu bod caniatâd cynllunio wedi cael ei roi yn y lle cyntaf.
Os ydych chi’n credu y dylai’r datblygwyr gadw at delerau eu caniatâd cynllunio, hysbyswch y Parc Cenedlaethol. Trowch at gais cynllunio NP3/15/215D , cliciwch ar ‘Comment on this application’ a gwrthwynebwch.
Er lles Afon Lâs a phob afon arall sydd dan fygythiad, gofynnwch i Awdurdod y Parc Cenedlaethol ddiddymu’r caniatâd cynllunio ar gyfer y cynllun hwn. Mae’r datblygwr eisoes wedi dangos na ellir ymddiried ynddo i ofalu am ein hafonydd.