Tîm Cymdeithas Eryri yn wynebu gwres llethol yn ystod her 100km

Tîm Cymdeithas Eryri yn wynebu gwres llethol yn ystod her 100km

Dros dri diwrnod chwilboeth y penwythnos diwethaf, fe wnaeth ein tîm dewr – Glynis, Charles, David, Dan a John – wynebu digwyddiad epig Her Eryri

O’r man cychwyn ym Metws y Coed, fe wnaethant gyflawni pellter oedd yn cyfateb i ddau farathon a hanner dros dri diwrnod o ddydd Gwener 29 Mehefin i ddydd Sul 1 Gorffennaf.  Roedd y tymheredd oddeutu 30oC bob dydd, felly nid oedd hyn yn rhwydd o gwbl!

Roedd hwn yn ddigwyddiad cyfrifol iawn wedi’i drefnu’n dda, ac aeth 130 o bobl i lefydd nad oeddent wedi ymweld â hwy yn flaenorol. Un rheswm pwysig dros gyfranogiad y Gymdeithas yn y digwyddiad oedd amlygu faint o Eryri sy’n cael ei anwybyddu, tra bo’r atyniadau hynod boblogaidd fel Eryri yn denu niferoedd mor fawr o ymwelwyr, gan arwain at godi cwestiynau ynghylch cynaliadwyedd.

Dywedodd ein Cyfarwyddwr, John Harold:

‘Nid oeddwn i erioed wedi gwneud dim byd tebyg i hyn, ac roedd yn dipyn o brofiad.  Roeddwn i’n hoffi’r cyfuniad o ddigwyddiad wedi’i drefnu ar y naill law, a’r teimlad o lwyddiant personol ar y llaw arall.  Yn ystod pob un o’r tri diwrnod, fe wnaethom ni grwydro milltiroedd heb weld enaid byw ac eithrio’r rhai oedd yn cyfranogi yn yr Her gyda ni – un neu ddau o grwpiau bychan a llond dwrn o unigolion mewn 65 milltir o lwybrau troed yn y Parc Cenedlaethol.  Yn ogystal â mwynhau bod mewn lle mor dawel, roeddwn i wrth fy modd hyn darganfod agweddau newydd ar lefydd cyfarwydd – er enghraifft, pa mor hyfryd yw mynd o Ddolwyddelan i Gapel Curig ar draws gwlad’

Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri John Harold

‘Cefais fy atgoffa am yr angen am ein gwaith ymarferol yn ystod sawl rhan o’r daith. Mae’n dda cael dweud nad oedd unrhyw sbwriel i’w weld ar y rhan fwyaf o lwybrau y gwnaethom ni eu troedio, a hynny oherwydd eu bod mor ddiarffordd. Ni fu’n rhaid i ni godi rhywfaint o boteli a phapurau melysion nes i ni nesáu at y llecynnau mwy prysur. Un diwrnod, bu’n rhaid ailgyfeirio un rhan o’r daith, oherwydd roedd y tywydd sych yn gwneud i’r llwybr falurio – mae’r llwybr troed hwn yn digwydd bod yn rhan o Lwybr Llechi Eryri, y mae ein gwirfoddolwyr yn cynorthwyo i ofalu amdano, felly efallai bydd rhywfaint o waith yno i ni maes o law. I’r dwyrain o Foel Siabod, wrth i ni adael y blanhigfa goed, fe wnaethom ni gyrraedd rhostir a thir prysg sydd â chyfoeth o fywyd gwyllt. Roedd planhigion ifanc coed conwydd anfrodorol, sy’n hadu eu hunain, yn ymledu i’r llecyn hwn – tasg arall a wneir yn rheolaidd gan ein gwirfoddolwyr. Fel sydd yn digwydd yn ystod llawer o ddigwyddiadau, fe wnaeth rhyw unigolyn hunanol neu’i gilydd ddangos ei wrthwynebiad i bobl yn mwynhau cefn gwlad yn dawel, a symudodd rhai o’r arwyddion dros dro – rhywbeth sy’n ein hatgoffa na allwn ni fyth laesu dwylo mewn perthynas â mynediad, rhywbeth sydd wedi’i ennill drwy fawr ymdrech.”

“Roeddwn i wrth fy modd â’r golygfeydd newydd a ddeuai i’r golwg yn annisgwyl, ac fe wnes i fwynhau gweld y bywyd gwyllt; fy hoff brofiad oedd gweld teulu o bibyddion y dorlan ger afon anghyffredin o ddi-ffrwt. Fe wnes i elwa o 3 diwrnod yng nghwmni da Dan, ein Swyddog Prosiect, ac fe wnes i ymhyfrydu yn y cyfle i aildanio’r teimlad o fod yn gwneud rhywbeth gwahanol i’r cyffredin a fy herio fy hun yn gorfforol. Ar ddiwedd yr holl grwydro, roeddwn i’n teimlo fod gen i fwy o gysylltiad â nifer o rannau arbennig o Eryri.”

Dydy hi ddim yn rhy hwyr!

Roedd y gweithgaredd yn heriol iawn i bum aelod ein tîm, ac mae gan rai ohonynt bothelli i brofi hynny, ond fe wnaeth y gefnogaeth a gawsant gan noddwyr a ffrindiau eu helpu i beidio rhoi’r ffidil yn y to.  Nid yw’n rhy hwyr i noddi ein Pump Penigamp – bydd eu tudalennau Local Giving ar agor am ychydig yn rhagor o ddiwrnodau. Cefnogwch eu hymdrechion os gwelwch yn dda – cyfrannir yr holl elw at waith y Gymdeithas yn helpu i sicrhau fod yn lle rhyfeddol hwn yn parhau yn hardd ac i helpu pobl i’w fwynhau yn gyfrifol!

ttps://localgiving.org/fundraising/snowdonia-challenge-john-2018/

https://localgiving.org/fundraising/charliesnowdonchallenge2018/

https://localgiving.org/fundraising/fundraising-snowdonia-challenge-dan-2018/

https://localgiving.org/fundraising/davidglynis-snowdoniachallenge/

Comments are closed.