Gwerthu hadau i gefnogi Cymdeithas Eryri
Llun uchod: David Powell North Wales Live / Daily Post
Yn gynharach yr wythnos hon aeth Cymdeithas Eryri â chatalog o hadau a gasglwyd â llaw o’r ardd fywyd gwyllt yn Nhŷ Hyll i’r Ffair Hadau flynyddol yng nghanol tref Conwy.
Gwerthwyd oddeutu 31 o wahanol amrywiaethau o hadau blodau gwyllt – yn cynnwys y pabi Cymreig Meconopsis cambrica, gwialen yr angel Dierama pulcherrimum a bwtsias y gog Hyacinthoides non-scripta – a chodwyd £114 tuag at waith cadwraeth Cymdeithas Eryri ledled y Parc Cenedlaethol.
Diolch arbennig i’n hymddiriedolwr Margaret Thomas, sy’n casglu, yn prosesu ac yn labelu’r hadau â llaw o ardd Tŷ Hyll.
Helpwch i gynnal pryfed peillio
Os hoffech chi brynu rhai o’n Hadau er lles Gwenyn ar-lein, cliciwch yma.
Gallwch hefyd brynu ein hadau a’n planhigion sy’n llesol i bryfed peillio yn ystafell de Tŷ Hyll, ger Betws y Coed, ble gall aelodau o Gymdeithas Eryri gael 20% o ddisgownt!
DYDDIADAU I’W NODI YN Y DYDDIADUR:
- Caru planhigion? Ymunwch â ni ar ein Gweithdy Perlysiau Tisane yn Nhŷ Hyll ar ddydd Gwener 5 o Orffennaf. Am mwy o wybodaeth cliciwch yma
- Paid a fethu Ffair Fêl Conwy ar ddydd Gwener 13 o Fedi, lle fyddwn yn cynnal stondin Cymdetihas Eryri unwaith eto. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.