Nodwch y dyddiad: Penwythnos Mentro a Dathlu (MaD) wedi ei gadarnhau
Yn ôl am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, cynhelir penwythnos wirfoddoli llawn gweithgaredd Mentro a Dathlu (MaD) Cymdeithas Eryri am dridiau o ddydd Gwener 11 hyd ddydd Sul 13 Medi 2020.
Mae’r penwythnos yn cynnwys amrywiaeth o gyfleoedd i wirfoddoli ledled Eryri mewn partneriaeth â chyrff a chymdeithasau lleol, grwpiau cymunedol a busnesau, gyda gwersylla, gweithdai a cherddoriaeth ar Stad Craflwyn ym Meddgelert.
Cyhoeddir y rhaglen ddrafft yn yr wythnosau nesaf; cadwch lygad am y manylion.
Am unrhyw gwestiwn ar sut i gymryd rhan neu gefnogi’r penwythnos eleni, cysylltwch â’n Swyddog Ymgysylltu Claire: claire@snowdonia-society.org.uk
Darllenwch am ddigwyddiad y llynedd yma.