Rydym yn recriwtio: Warden Tŷ Hyll

Rydym yn recriwtio: Warden Tŷ Hyll

Ydych chi’n dymuno ymuno â chorff sy’n gweithio i warchod Eryri? Hoffech chi weithio mewn lle hardd sy’n llawn cymeriad, straeon a phobl?

Ers 30 mlynedd, perchnogion Tŷ Hyll, sy’n adeilad unigryw, yw Cymdeithas Eryri. Saif y bwthyn mewn gardd fywyd gwyllt gyda llwybrau drwy goedlan sy’n warchodfa natur, gyda chychod gwenyn mewn un gornel. Gallwch ddarllen mwy am Dŷ Hyll yma

Mae Cymdeithas Eryri yn chwilio am unigolyn arbennig i ymuno â’i thîm ymroddedig yn rhan-amser. Bydd deilydd y swydd yn gweithio o Dŷ Hyll ger Betws-y-coed.

Mae’r gwaith, sy’n cynnwys ymweliadau cyson â Thŷ Hyll, yn gymysgedd difyr o fod yn:

Dirmon – yn gyfrifol am:

  • ofal rheolaidd a gwaith cynnal a chadw ar y tŷ yn cynnwys toeau, landeri a pheintio
  • ofal rheolaidd a gwaith cynnal a chadw ar yr adeiladau, llwybrau, terfynau, maes parcio, toiled compost, cownteri ymwelwyr a mwy
  • gymryd rhan ymarferol drwy gynorthwyo staff/gwirfoddolwyr gyda gorchwylion rheolaeth y goedlan a’r ardd fel bo angen
  • ddatrys problemau, cyflawni mân dasgau, a threfnu ac arolygu mân waith gyda chontractwyr
  • arolygu gwaith cynnal a chadw a gwaith trwsio ar raddfa fwy a drefnir gan swyddfa’r Gymdeithas

Llysgennad i’r Gymdeithas:

  • byddwch yn mwynhau sgwrsio gydag ymwelwyr a’u hysbrydoli am waith y Gymdeithas
  • Helpu staff y Gymdeithas i sicrhau llwyddiant digwyddiadau, i wella profiad ymwelwyr a recriwtio aelodau newydd
  • cynnal arwyddion, ailstocio a chadw cyfrif o daflenni, arweinlyfrau, a stoc i’w werthu
  • cynnal arddangosfeydd yr ystafell wybodaeth a’r storfa

Cyfathrebwr – sicrhau bod pob dim yn mynd yn rhwydd drwy gydweithio gyda:

  • Chyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, staff cadwraeth, swyddog ymwneud â’r cyhoedd, garddwr, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr
  • Cysylltiadau allanol: staff yr ystafell de, asiantaethau allanol, perchnogion eiddo gerllaw, ayyb

Ai chi o bosib yw’r unigolyn yr ydym yn chwilio amdano? Os felly …

  • Byddwch yn fodlon derbyn cytundeb blwyddyn i ddechrau ar raddfa tâl i’w chytuno, gyda’r potensial o ymestyn hyn.
  • Byddwch yn gwerthfawrogi’r oriau hyblyg – 400 y flwyddyn i ddechrau. Byddwch yn gallu ffitio’r oriau yma gyda’ch ymrwymiadau eraill, cyn belled â’ch bod yn fodlon gweithio mwy o oriau yn ystod cyfnodau prysuraf y flwyddyn, a llai yn y gaeaf.
  • Byddwch, mae’n debyg, yn byw’n ddigon agos i allu picio draw i Dŷ Hyll pan fydd angen hynny.
  • Rydych yn siaradwr Cymraeg rhugl neu’n ddysgwr ymroddedig, ac yn awyddus i ddefnyddio pob cyfle i siarad y Gymraeg.

Cysylltwch â John Harold, Cyfarwyddwr y Gymdeithas, i drafod yr uchod: director@snowdonia-society.org.uk  01286 685498

Dyddiad cau: 3ydd Mai

Cychwyn arfaethedig ym Mis Mai

 

 

Comments are closed.