Rydym yn recriwtio: Swyddog Project WEDI YMESTYN Y DYDDIAD CAU

Swyddog Project: Cymdeithas Eryri
Llawn amser – 37.5 awr yr wythnos
Cytundeb tymor penodol, 1 flwyddyn.  Estyniad pellach os bydd ariannu yn caniatáu.

Cyflog £18,525

CEFNDIR
Cymdeithas Eryri yw’r elusen gadwraeth sy’n gwarchod ac yn gwella Eryri. Rydym yn rhoi gwaith cadwraeth ymarferol ar waith ledled Eryri, yn ymgyrchu i warchod rhinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol ac yn edrych ar ôl Tŷ Hyll gyda’i ardd bywyd gwyllt a choedlan hyfryd.

Rydym yn cyflawni cadwraeth ymarferol drwy gyfrwng ein rhaglen wirfoddoli sy’n cynnwys rheoli cynefinoedd, rheoli gwlyptir, gwaith cynnal llwybrau, clirio sbwriel, mynd i’r afael â rhywogaethau ymledol a darparu hyfforddiant achrededig.

Rydym yn recriwtio Swyddog Project i ymuno â’n tîm. Mae’r gwaith yn amrywiol ac fe all gynnwys:

  • Arwain a chynllunio cyfleoedd i wirfoddoli
  • Cynnal perthnasau ardderchog gyda phartneriaid sy’n bodoli eisoes a datblygu rhai newydd
  • Recriwtio aelodau a chodi arian
  • Ymgysylltu â’r cyhoedd, cymunedau lleol, ac ymwelwyr

Mae staff Cymdeithas Eryri yn dîm; gyda’n gilydd rydym yn cyfrannu mewn sawl ffordd i waith ehangach yr elusen ac i orchwylion craidd megis recriwtio aelodau a gwirfoddolwyr newydd.
Mae hyblygrwydd o ran dyddiau gwaith yn hanfodol. Bydd angen gwaith rheolaidd ar benwythnosau, a chaniatéir amser ‘in lieu’ yn lle’r cyfnodau yma.

DISGRIFIAD UNIGOLYN

Hanfodol
• Profiad o gynllunio, gweinyddu ac arwain gwaith cadwraeth ymarferol gyda gwirfoddolwyr
• Gwybodaeth weithiol o Eryri a chadwraeth ac angerdd tuag at yr ardal.
• Y gallu i ysgogi’i hun a datrys problemau
• Yn gallu cyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg
• Yn alluog i ddefnyddio Word, Excel a Powerpoint, diweddaru gwefannau a’r cyfryngau cymdeithasol
• Fe all y swydd hon gynnwys gweithio gyda phobl ifanc o dan 18 oed ac oedolion y gellir eu dosbarthu fel bregus neu mewn perygl o risg. Bydd angen gwiriad DBS uwch boddhaol (gyda thystiolaeth drwy danysgrifiad i’r Gwasanaeth Diweddaru neu ar gais yn dilyn penodi).

Trwydded yrru gyfredol, a defnydd o gerbyd gydag yswiriant ar gyfer busnes – mae’r gwaith yn digwydd ledled Eryri a bydd angen cludo offer llaw i’r safleoedd gweithio. Ceir arian yn ôl am y milltiroedd oddi allan i’r swyddfa.

Dymunol:

  • Profiad o ddarparu dysgu neu hyfforddiant achrededig
    • Profiad o godi arian a recriwtio aelodau mewn corff nad-am-elw
  • Profiad o gydweithio mewn partneriaeth gyda chyrff eraill

 

Mae cwmpas y swydd hon yn debygol o gynnwys rhai o’r canlynol:

  • Rheoli jac-y-neidiwr
  • Gwirfoddoli Caru Eryri – y gwaith partneriaeth i helpu i reoli effeithiau ymwelwyr mewn lleoliadau allweddol (wedi ei ail-frandio o’r newydd o gynllun Croeso’n Ôl 2020)
  • Project Partneriaeth Tirlun y Carneddau
  • Mynd i’r afael â sbwriel
  • Recriwtio aelodau
  • Gwaith cyfryngau cymdeithasol/cyfathrebu wedi ei dargedu
  • Codi arian
  • Garddio bywyd gwyllt
  • Rheoli eiddo
  • Ymgysylltu â’r cyhoedd

Os oes gennych wybodaeth, fedrau neu ddiddordeb penodol yn unrhyw un o’r rhain cofiwch bwysleisio hyn yn eich cais.

DISGRIFIAD SWYDD
Prif gyfrifoldebau:

  • Gweithio gyda staff cadwraeth eraill i gydlynu, cynllunio a gwireddu rhaglenni, cyfleoedd, a gweithgareddau gwirfoddoli cadwraeth.
  • Cysylltu gyda phartneriaid i sicrhau gweithredu rhwydd o weithgareddau a hyfforddiant effeithiol.
  • Rhoi sgyrsiau am waith y Gymdeithas i grwpiau cymunedol a rhai â diddordeb.
  • Cynnal cofnodion Iechyd a Diogelwch ac asesiadau risg ar gyfer gweithgareddau.
  • Recriwtio a chefnogi gwirfoddolwyr, ymateb i ymholiadau a darparu gwybodaeth
  • Cynnal cofnodion gwirfoddolwyr ar gyfer cronfa ddata’r Gymdeithas
  • Gwneud yn fawr o gyfleoedd i gynyddu cefnogaeth i’r Gymdeithas a’i gwaith a hyrwyddo buddion aelodaeth i’r cyhoedd
  • Cynorthwyo gyda meysydd eraill o waith y Gymdeithas fel bo angen

 

 

SUT I WNEUD CAIS
Am drafodaeth anffurfiol am y swydd e-bostiwch mary-kate@snowdonia-society.org.uk os gwelwch yn dda.

Sylwer na allwn dderbyn ceisiadau os nad ydyn nhw wedi eu cwblhau wrth ddefnyddio ein Ffurflen Gais Safonol.

Ni fydd ceisiadau gyda CV yn unig yn cael eu hystyried.
Dychwelwch y ffurflen ar yr e-bost i mary-kate@snowdonia-society.org.uk
Dyddiad cau: 23:59, dydd Sul 25 Ebrill 2021

Cyfweliadau: Dydd Iau 6 Mai 2021
Byddwn yn hysbysu ymgeiswyr ar y rhestr fer erbyn:
 28 Ebrill 2021
Dyddiad cychwyn y swydd: Cyn gynted â phosib ym mis Mai

Comments are closed.