Ydych chi’n frwdfrydig ynghylch cadwraeth?

Hoffech chi gael rhywfaint o brofiad perthnasol yr haf hwn?

Fel rhan o weithgareddau hanner can mlwyddiant y Gymdeithas, fe wnaeth Cymdeithas Eryri ystyried y dyfodol a buddsoddi yn ei gwirfoddolwyr – trwy redeg uned Sgiliau Cadwraeth Ymarferol newydd ac achrededig.   Mae’r uned yn caniatáu i chi arddangos eich sgiliau cadwraeth ymarferol, sy’n hanfodol mewn llawer o ddisgrifiadau swyddi.   Mae’r uned yn ddelfrydol i’r sawl sy’n dymuno dull mwy ffurfio o ddangos prawf o’u profiad ymarferol a’u gwybodaeth.  Oherwydd llwyddiant a phoblogrwydd yr uned hon yn ein hanner canfed blwyddyn, byddwn yn parhau i gynnig y cyfle i gyfranogi i’n gwirfoddolwyr.

Trwy ymgymryd â’r uned hon, byddwch yn:

  • Gwneud amrywiaeth o dasgau cadwraeth ymarferol mewn amrywiaeth o gynefinoedd;
  • Arddangos eich gallu i weithio’n ddiogel, datblygu gwybodaeth am asesu risgiau a phwysigrwydd, er enghraifft, dillad amddiffynnol personol;
  • Dod yn gyfarwydd ag amrywiaeth o offer, dulliau o’u cynnal a chadw a sut i’w defnyddio.

Mae’r uned hon yn wych i bobl sydd eisoes yn gwirfoddoli i ni, neu’r sawl sy’n awyddus i gychwyn.  Bydd angen oddeutu 30 awr i orffen yr uned, a bydd oddeutu 20-25 o’r oriau hyn yn ddiwrnodau gwaith cadwraeth ymarferol.

Nid oes angen llawer o waith papur, dim ond llenwi cofnod adfyfyriol byr wedi pob diwrnod gwaith, a llenwi 2 asesiad o risgiau yn amlygu 3-4 prif risg safle/tasg.

Pryd allaf i gyfranogi?

Rhaid i chi fod ar gael i fynychu’r sesiwn gyntaf ar 7 Awst.   Yna, bydd yn rhaid i chi fynychu tri diwrnod gwaith o blith y canlynol:

  • 8 neu 15 Ast, brwydro Ffromlys Chwarennog yn Dolgellau (daliwch sylw, mae croeso i chi fynychu’r ddau ddigwyddiad ond dim ond un all gyfrif tuag at yr uned oherwydd mae’n rhaid i’r tasgau fod yn wahanol)
  • 14 Awst, gwaith mewn coetir yng Nganllwyd
  • 18 Awst, arolwg o lygod y dŵr yn Nhrawsfynydd
  • 22 Awst, diwrnod gwaith cynnal a chadw llwybrau’r Wyddfa
  • 24 Awst, casglu sbwriel ar draeth Harlech
  • 28 Awst, diwrnod gwaith yng nghoetir Tŷ Hyll

Sut i wneud cais?

I ymgeisio am yr uned hon, anfonwch y canlynol at mary-kate@snowdonia-society.org.uk  erbyn 09:00 Dydd Llun 30 Gorffennaf.

  • eich enw, oedran, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn
  • sut glywsoch chi am y cwrs?
  • y dyddiadau y byddech chi’n cyfranogi pe bai eich cais yn llwyddiannus
  • hyd at 200 o eiriau yn datgan pam yr hoffech chi gyfranogi
  • Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cael cludiant am ddim, nodwch hyn yn eich cais. Yn dibynnu ar y galw a’ch lleoliad chi, fe wnawn ni ein gorau glas i helpu.

Diolch i’r cyrff sy’n ein hariannu, sef Snowdonia Giving, Postcode Local Trust, elusen sy’n rhoi grantiau sy’n cael ei ariannu’n llwyr gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery, Cronfa Partneriaeth Eryri a Sefydliad Garfield Weston, gallwn ni gynnig yr hyfforddiant hwn am ddim y tro hwn.  Fodd bynnag, mae nifer gyfyngedig iawn o lefydd ar gael, ac os cewch chi le, byddwch yn ymrwymo i gyfranogi ym mhedwar o’r digwyddiadau uchod ym mis Awst.

Beth ddywedodd ein gwirfoddolwyr diweddar am eu profiad o gwblhau’r uned.

 

 

Comments are closed.