Taith dywys ar fferm Llyndy Isaf
Sadwrn 9 Gorffennaf
Mae llefyd ar gael o hyd ar y daith dywys arbennig ar fferm drawiadol Llyndy Isaf, Nant Gwynant, yng nghwmni Sabine Nouvet (Ymddiriedolaeth Genedlaethol), a Hilary Kehoe a Jan Sherry o PONT. Rhaid archebu lle.
Taith dywys arbennig ar fferm drawiadol Llyndy Isaf yng nghwmni Sabine Nouvet o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a Hilary Kehoe a Jan Sherry o Bori Natur a Threftadaeth(PONT). Byddant yn trafod defnyddio pori i reoli amgylchedd bioamrywiaeth cyfoethog ucheldir y fferm Ymddiriedolaeth Genedlaethol hon.
Sefydliad dielw yw PONT sy’n bodoli i annog a hwyluso pori er budd bywyd gwyllt, tirwedd a threftadaeth ddiwylliannol Cymru.
Sabine Nouvet yw’r ceidwad Cadwraeth Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Eryri a Llŷn. Mae hi wedi bod yn allweddol mewn datblygu rheoli pori ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn y Parc Cenedlaethol. Rhoddodd Sabine sgwrs gwych am ei gwaith, yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Eryri 2015.
Tirwedd – tir anwastad a serth mewn mannau; pellter: 5-6 milltir
Rhaid archebu lle:
01286 685498
mary-kate@snowdonia-society.org.uk
Rydym yn cadw’r hawl i droi pobl i ffwrdd nad ydynt wedi archebu lle.
Rhowch yn hael
Yn hytrach na phenodi pris am y digwyddiad hwn, rydym yn gwahodd cyfraniadau. Cofiwch roi’n hael; bydd eich arian yn mynd tuag at waith Cymdeithas Eryri.
Delwedd: Blog Apel Eryri ac ymgyrch Llyndy