Pont newydd yn wastraff o arian trethdalwyr

pont_afon_goch_bridge_snowd

Mae pont droed newydd sy’n hyll ac wedi’i gor-saernïo wedi cael ei hadeiladu yn Eryri yn groes i gyngor y Parc Cenedlaethol.  Nid gan ddatblygwr diegwyddor, ond gan Gyngor Gwynedd.

Mae’r elusen cadwraeth Cymdeithas Eryri yn dymuno gwybod faint o arian trethdalwyr sydd wedi’i wastraffu gan Gyngor Gwynedd ar gynllunio ac adeiladu’r ‘eliffant gwyn’ hwn yn y mynyddoedd yn ardal Llanberis.

Mae Cymdeithas Eryri wedi gwneud ymholiadau ar ôl i gerddwyr lleol gysylltu â hwy. Roeddent wedi’u cythruddo gan yr hyn a ddisgrifir ganddynt fel ‘erchyllbeth’    Fe wnaethom ganfod fod Cyngor Gwynedd wedi adeiladu’r bont ar waethaf cyngor Awdurdod y Parc Cenedlaethol y byddai unrhyw beth ac eithrio pont arall oedd yn union yr un fath â’r gwreiddiol yn golygu fod angen ymgynghoriad i sicrhau ei bod yn addas i’r lleoliad.    Ond fe wnaeth peirianwyr Cyngor Gwynedd fwrw ymlaen â’r gwaith o gynllunio ac adeiladu’r hyn oeddent yn ei ddymuno heb ganiatâd.

Mae Cyngor Gwynedd wedi methu cyflawni eu dyletswydd gyfreithiol o dan Adran 62 Deddf yr Amgylchedd (1995) i ‘fod yn ystyriol o ddibenion y Parc Cenedlaethol wrth wneud penderfyniadau neu gyflawni eu gweithgareddau’ a dangos parch at Eryri.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri John Harold

‘Y canlyniad yw pont ormodol sy’n hollol anaddas.  Dyma glasur o fethiant gan yr Awdurdod Lleol.  Mae Gwynedd wedi methu â dangos parch at y Parc Cenedlaethol a’r bobl sy’n ei ddefnyddio, wedi methu ymgynghori’n ystyrlon ag Awdurdod y Parc, ac wedi methu â goruchwylio gwaith eu peirianwyr.  Gall unrhyw un sydd wedi bod yma weld nad yw pont fel hon yn addas i’r llecyn gwyllt a naturiol hwn ar ochr Moel Eilio.  Yn y mannau tawel hyn yn y Parc Cenedlaethol, mae arnom ni angen atebion syml a rhad sydd ddim yn denu sylw, nid darnau hyll o goncrid a dur sydd wedi’u gor-saernïo.’

‘Mae Cymdeithas Eryri yn neilltuol o bryderus gan yr agwedd drahaus a ddangoswyd gan Gyngor Gwynedd wrth amddiffyn eu penderfyniad gwael.  Maent bellach yn honni fod y gwaith yn cael ei ystyried yn ‘gynnal a chadw neu wella priffordd’ o dan y Ddeddf Priffyrdd.  Byddai hynny’n ddoniol pe na bai’n drist.  Mae Cymdeithas Eryri yn dymuno i Gyngor Gwynedd hysbysu pobl leol beth oedd cost y gwaith hwn, ar adeg pan maent yn gwneud toriadau i wasanaethau.  Rydym yn erfyn ar yr Awdurdod Lleol i fod yn fwy ystyriol o’n Parc Cenedlaethol yn y dyfodol.’

A’r dyfodol sy’n poeni John Harold o Gymdeithas Eryri:

‘Nid dyma’r tro cyntaf y gwnaeth Awdurdod Lleol ddiystyru buddiannau Eryri, ac rydym yn pryderu y gallai hyn waethygu’n fuan.   Mae Llywodraeth Cymru wedi addasu’r Bil Cynllunio drafft fel gellir mynd â chyfrifoldebau cynllunio oddi ar Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol a’u cynnwys yng nghyfrifoldebau’r Awdurdodau Lleol unedig arfaethedig.  Mae ein profiad yma yn awgrymu na ddylem ni ymddiried mewn Awdurdodau Lleol i fod yn gyfrifol am gynllunio yn ein Parciau Cenedlaethol – trysorau pennaf tirweddau Cymru – oherwydd mae’n amlwg fod ganddynt flaenoriaethau eraill.  Mae angen i Awdurdod sy’n rhoi blaenoriaeth i Barciau Cenedlaethol ofalu am Eryri.  Heb hynny, gallai’r bont ormodol hon fod yn gam bach tuag at lanastr llwyr.’

Cafodd hen bont grawiau lechfaen dros Afon Goch uwchlaw Llanberis ei dinistrio mewn storm ym mis Tachwedd 2013. Mae’n anoddach dychmygu unrhyw beth mwy anaddas o ran ei chynllun a’i maint na’r bont a godwyd yn ei lle, o’i gwaelod concrid hir a llydan i’r ochrau chwerthinllyd o uchel sydd wedi’u gosod ar ongl bensaernïol gain.

Mae’r bont newydd hon yn enghraifft o ormodedd o ran peirianneg a manylebau, ac mae’n nodweddiadol o beth fydd yn digwydd pan ddilynir proses heb unrhyw synnwyr cyffredin.  Ni fyddai’r adeiledd drud yr olwg wedi cael ei godi pe bai rhywun wedi gofyn un cwestiwn syml, sef ‘Pa fath o bont sy’n briodol yn y rhan fynyddig hon o Barc Cenedlaethol Eryri?’

Mae’r hen giât fferm a osodwyd ym mhen draw y bont yn rhwbio halen ar y briw, ac mae’n pwysleisio pa mor anaddas yw’r bont ar y llwybr ceffyl a llwybr troed tawel hwn. Mae’r giât hefyd yn mynd yn groes i ganllawiau Cymdeithas Ceffylau Prydain ar gyfer pontydd ar lwybrau ceffylau, felly nid oes neb yn fodlon â hyn, ac eithrio un peiriannydd pontydd, sy’n teimlo’n falch iawn o’i waith mewn swyddfa yn rhywle mae’n debyg.

Digwyddodd sefyllfa debyg ychydig flynyddoedd yn ôl pan godwyd ‘erchyllbeth’ ag ochrau uchel yng Nghrafnant yn lle pont syml iawn.  Wedi llawer o ymdrechu, fe wnaeth Cymdeithas Eryri ennill y ddadl yn y pen draw, a chodwyd pont fwy derbyniol.

Comments are closed.