Pleidiwch dros David!

Mae ein gwirfoddolwr ymroddedig, David Bird ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn genedlaethol! Dewisir yr enillydd gan y cyhoedd mewn ffrâm amser byr iawn: pleidleisiwch dros David rŵan cyn i’r pleidleisio dod i ben ddydd Mercher hwn!

Mae David wedi bod yn wirfoddolwr selog gyda Chymdeithas Eryri ers gwirfoddoli gyda ni gyntaf ym mis Mai 2019. Yn fuan iawn daeth yn wyneb cyfarwydd â chroesawgar, gan wirfoddoli o leiaf unwaith yr wythnos gyda ni ar gyfartaledd ac yn aml yn fwy na hynny. Mae David wedi rhoi oriau di-ri i gadwraeth ymarferol gwahanol gynefinoedd Parc Cenedlaethol Eryri. Mae o wedi plannu coed, clirio draeniau a chynnal llwybrau troed, helpu adeiladu darn o lwybr carreg, casglu hadau coed, adnewyddu grisiau mewn coetir, trwsio ffensys … mae’r rhestr yn mynd ymlaen.

Yr haf diwethaf, bu Cymdeithas Eryri yn chwarae rhan fawr mewn prosiect partneriaeth i groesawu ymwelwyr yn ôl i Barc Cenedlaethol Eryri ar ôl y cynod cloi cyntaf. Roedd y nifer fawr o ymwelwyr â ‘hotspots’ y parc yn golygu cawson ein gwirfoddolwyr amser dwys, yr holl amser yn effro i sicrhau diogelwch coronafirws. Mi wnaethon ni gyfarfod, croesawu a chynghori ymwelwyr dirifedi a chasglu cannoedd o fagiau o sbwriel o fynyddoedd, mannau harddwch ac ochr y ffordd. David oedd y gwirfoddolwr amlaf ar y prosiect Croeso’n Ôl, gan roi un diwrnod ar bymtheg anhygoel dros wyth penwythnos yn olynol, mewn tymereddau uchel yn ogystal â glaw trwm.

Nid yn unig y gymdeithas y mae David yn gwirfoddoli iddi. Ar yr un pryd â’r prosiect ‘Croeso’n Ol’, roedd David hefyd yn gwirfoddoli ddeuddydd yr wythnos i ddosbarthu presgripsiynau i bobl ledled y parc cenedlaethol. Mae’n parhau i wneud y gwaith hwnnw yn ogystal â gwirfoddoli mewn canolfan frechu coronafirws. Mae hefyd yn wirfoddolwr rheolaidd i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru yn Eryri. Diolch diffuant, David, o Gymdeithas Eryri.

Comments are closed.