#CynllunioCanfodCaru – Paratoi am Ŵyl y Banc prysur – gynllunio o flaen llaw!

#CynllunioCanfodCaru – Paratoi am Ŵyl y Banc prysur – gynllunio o flaen llaw!

Mae partneriaid wedi bod yn cydweithio ers diwedd yr haf diwethaf i roi cynlluniau mewn lle er mwyn  rheoli problemau parcio, sbwriel a champio’n anghyfreithlon, gyda’r nod o greu awyrgylch a phrofiadau diogel a chadarnhaol i bawb gan warchod tirwedd a bywyd gwyllt Gogledd Gorllewin Cymru.

Pan laciwyd cyfyngiadau COVID-19 yn 2020, rhoddodd drosolwg i ni o’r sefyllfaoedd posib all godi eto eleni gyda thri phrif fater yn dod i’r amlwg fel rhai sydd angen mynd i’r afael a nhw. Rydym ninnau yn ogystal ag ardaloedd gwyrdd eraill ar draws y DU yn disgwyl nifer sylweddol iawn o ymwelwyr i’r ardal dros benwythnos Gŵyl y Banc – Mae pobol wedi bod mewn cyfnodau clo am beth amser ac yn ddealladwy’n teimlo’r angen i gael bod allan yn yr awyr agored eto.

Mae mwy o ymwelwyr yn anochel yn golygu mwy o geir, mwy o sbwriel a mwy o gampio anghyfreithlon gyda’r awdurdodau yn annog y cyhoedd i barchu’r trefniadau i osgoi’r angen am gamau gorfodaeth. Mae cymaint o bwysau ychwanegol yn rhoi straen ar ein hadnoddau a chymunedau a thrwy gydweithio rydym am leihau cymaint o’r sgil effeithiau negyddol a phosib a gwneud y mwyaf o’r rhai positif.

Dywedodd Emyr Williams, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri;

 “Gan fod ein meysydd parcio mwyaf poblogaidd yn llenwi erbyn 6:30yb yn ystod y tymor brig, trwy gydweithio a’n partneriaid ac Awdurdodau eraill gallwn ddarparu isadeiledd pwrpasol ar gyfer y tymor. Mi fydd hyn yn cael ei ddarparu trwy wasanaeth Parcio a Theithio yn ardaloedd Yr Wyddfa ac Ogwen, arwyddion parhaol a dros dro  system rhagarchebu ym Mhen y Pass ac ymgyrch gref o ran negeseuon er mwyn annog pobl i ymweld a’r amseroedd tawelach o’r wythnos a dros y flwyddyn er mwyn gwasgaru niferoedd.

 Rydym angen cofio bod Eryri yn ardal warchodedig ble mae pobl yn byw ac yn gweithio a rydym yn cydnabod yr oriau ddiddiwedd mae’r tîm gweithgar o wirfoddolwyr yn rhoi i’r ardal ac yn gwerthfawrogi eu gwaith caled a’u haelioni. Dros Ŵyl y Banc mi fydd gwirfoddolwyr APCE a Chymdeithas Eryri allan eto’n codi sbwriel ac yn cynnig cefnogaeth i ymwelwyr wneud y penderfyniadau gorau er mwyn iddynt gael yr amser gorau posib yma.”

 Dywedodd y Cynghorydd Gareth Griffith, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

 “Gyda chyfyngiadau ar deithio i nifer o wledydd y tu hwnt i’r Deyrnas Gyfunol, mae disgwyl y bydd nifer o bobl yn ymweld â llecynnau poblogaidd Gwynedd a gogledd Cymru dros y misoedd nesaf.

Fel y llynedd, rydym yn cydweithio yn agos gyda’n partneriaid i sicrhau fod trefniadau yn eu lle i ddiogelu ein cymunedau a chadw pobl yn saff. Nid yw Covid-19 wedi diflannu ac mae’n allweddol fod pobl yn dilyn y rheolau ac yn parchu ein cymunedau ac amgylchedd.

 Rydym yn annog unrhyw un sy’n bwriadu ymweld â lleoliadau yma yng Ngwynedd i gynllunio o flaen llaw ac i sicrhau eu bod yn parcio yn gyfrifol. Mae trefniadau clir yn eu le mewn lleoliadau fel Pen y Pass ac Ogwen i reoli’r sefyllfa er mwyn cadw’r ardal yn ddiogel i bawb. Bydd unrhyw un sy’n anwybyddu’r trefniadau yn debyg o dderbyn dirwy ac mewn rhai achosion fe allai eu cerbyd gael eu gludo ymaith.”

Dywedodd Charlie McCoubrey, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy;

 “Os ydych chi’n bwriadu crwydro dros y penwythnos, gwnewch yn saff eich bod yn cynllunio o flaen llaw. Mae’n bwysig ein bod yn parhau i barchu ein gilydd, ein cymunedau a’n hamgylchedd. Mae’r risg yn parhau felly cadwch eich hunain ac eraill yn saff trwy gadw at y rheoliadau cyfredol.”

 Dywedodd Uwcharolygydd Neil Thomas, Heddlu Gogledd Cymru:

 “Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda’n cydweithwyr ar draws yr awdurdodau lleol a’r Parc Cenedlaethol i helpu i leihau’r risg i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr eraill y ffordd.

Pan godwyd cyfyngiadau’r llynedd, yn anffodus gwelsom barcio peryglus, anghyfrifol ac anghyfreithlon a oedd yn peri risg i ddiogelwch y cyhoedd mewn llawer o’n mannau prydferth, gan gynnwys Dyffryn Ogwen a Phen-y-Pass.

 Rydym yn gwerthfawrogi bod llawer o bobl am fwynhau penwythnos gŵyl y banc a’r tywydd braf a ragwelir, ond mae’n hanfodol nad yw teithio i’r ardaloedd hyn yn cael effaith andwyol ar eraill. Felly rydym unwaith eto yn annog unrhyw un sy’n ystyried ymweld ag ardaloedd fel Eryri i fod yn gyfrifol a meddwl am ble maent yn parcio, ac i wneud defnydd llawn o’r cyfleusterau parcio a theithio sydd ar gael.

 Bydd cerbyd unrhyw un sy’n parcio ar y ffordd neu’n achosi rhwystr yn cael ei symud ar ei gost ei hun. Bydd patrolau’n parhau drwy gydol penwythnos gŵyl y banc a byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid i sicrhau bod y rheolau’n cael eu dilyn.”

  1. Rhestr lawn o weithgareddau gweithredu a cyfathrebu APCE am y tymor
  2. Côd Campio Gwyllt Eryri

Comments are closed.