Cynnal a Chadw Llwybrau Troed Eryri

Cynnal a Chadw Llwybrau Troed Eryri

Ar ddechrau’r flwyddyn, wrth drafod â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, fe wnaethom ni lunio cynllun: Cydweithio i gynnal diwrnod cynnal a chadw llwybrau troed, ar ddydd Sadwrn cyntaf bob mis o fis Ebrill hyd at fis Hydref 2018.

Dros y saith mis, mae 38 o wirfoddolwyr Cymdeithas Eryri wedi cydweithio â thîm cynnal llwybrau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gynnal rhai o lwybrau troed prysuraf Eryri, sef llwybr Watkin ar yr Wyddfa, y Glyder Fawr, y Garn, Cwm Tryfan, Cwm Bychan a Chraflwyn. Fe aeth y gwaith â ni o’r copaon o dan eira ym mis Ebrill i wres tanbaid Mehefin, ac i liwiau mis Hydref.

Dywedodd Owain Thomas, Swyddog Prosiect Cymdeithas Eryri: “Mae’r ymdrech wych hon gan arweinyddion y tîm a’r gwirfoddolwyr yn golygu y gellir cynnal mynediad i’r dyffrynnoedd a’r mynyddoedd hyfryd hyn, ac ar yr un pryd, sicrhau fod miloedd o anturiaethwyr sy’n dod i Eryri yn cadw ar y llwybr iawn”.

Ychwanegodd: “Mae gwneud hynny’n llwyddiannus yn caniatáu i bawb fwynhau’r golygfeydd trawiadol hyn, ac ar yr un pryd, ymddwyn yn gyfrifol trwy beidio erydu ein tirwedd arbennig yn ormodol. Diolch o galon i’r 38 o wirfoddolwyr sydd wedi cyfranogi 190 awr o’u hamser yn ystod y saith mis diwethaf ar ran llwybrau Eryri”.

Mae gwaith gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri wedi cyfrannu at gynnal a gwarchod rhai o’n hoff lwybrau troed a’n hoff dirweddau yn y Parc Cenedlaethol. Bydd y prosiect yn parhau yn 2019, a byddem ni wrth ein bodd pe byddech chi’n ymuno â ni i wneud y gwaith.

Cysylltwch â’n Swyddog Prosiect Owain Thomas os hoffech chi helpu i gynnal a chadw llwybrau troed y flwyddyn nesaf: owain@snowdonia-society.org.uk


 

Comments are closed.