Mawn: byw a marw

Mawn: byw a marw

Unwaith neu ddwy mewn oes mae straeon yn ymddangos o’r gors, wedi canrifoedd yn y tywyllwch. Wedi eu cadw’n berff aith, daw eitemau gwerthfawr yn ôl i’r goleuni. Mae miloedd o fl ynyddoedd o fyd natur a
straeon dynol yn aros i’w darganfod yn ein mawnogydd.

Mae gwylio wrth i ddyfnderoedd y fawnog gael ei phrofi fel gweld lledrithiwr ar waith. Mae’n gwthio ffon denau hir i’r gors feddal. I lawr â hi. Yna mae darn arall yn cael ei hychwanegu at y ffon a’i gwthio i lawr. Ychwanegir mwy a mwy, yn ddyfnach bob tro nes y byddan nhw’n cyrraedd, ambell dro, chwe neu saith metr o ddyfnder. Yn ymgasglu ar raddfa o un milimetr y flwyddyn, mae metr o fawnog yn cynrychioli mileniwm.

Pob blwyddyn yn y cyfnod blaguro, mae wyneb byw cors yn cael ei gorchuddio â phaill â gludir yn yr awyr, ac ysgrifennir tudalen newydd yn y cofnod paill. Mae miloedd o flynyddoedd o dirlun ac ecoleg newidiol yn barod i’w dehongli o samplau o graidd y fawnog. O dan y microsgop, mae gronynnau paill wedi eu piclo’n adrodd cynnydd a chwymp coedwig, prysgwydd a rhos drwy gyfnodau o newid hinsawdd cynhanesyddol. Wrth i’r byd rewi a thoddi bob yn ail, mae coed o wahanol rywogaethau wedi ffynnu, arglwyddiaethu, ac yna wedi eu hysgubo i ffwrdd – pinwydd a llwyfen, bedw a ffawydd, derw ac onnen.

Ar raddfa hollol wahanol i ronynnau o baill mae’r cyrff yn y gors. Cafwyd hyd i ddyn Tollund gan dorwyr mawn o Ddenmarc yn 1950. Wedi bron i 2,000 o flynyddoedd, roedd ei wyneb wedi ei dduo gan sug y fawnog ond fel arall roedd nodweddion ei wyneb fel yr oedd pan yn fyw. Rydym yn gwybod mai potas o hadau gwyllt ac wedi eu trin yn cynnwys barlys, llin a chanclwm oedd ei bryd olaf.

Yn yr 1980au cafwyd hyd i ddyn a dynes yn Lindow Moss yn Swydd Caer gan dorwyr mawn oedd yn defnyddio peiriannau diwydiannol i dorri mawn. Pan fu farw rhwng 2 CC ac 119 OC, roedd y dyn yn iach ac yng nghanol ei 20au. Ei bryd olaf oedd bara llosg.

Rydym yn gwybod bod y gŵr o Lindow a Tollund wedi cael eu lladd. Serch hynny, oherwydd iddyn nhw gael eu cadw’n berffaith gan y gors, rydym wedi dysgu llawer mwy am eu bywydau nac yr ydym o natur eu marwolaeth. Wedi eu gwarchod gan y gors a’u cuddiodd am gymaint o amser, maen nhw wedi gadael cymaint ar eu holau i ni.

Ymysg y cyrff yng nghorsydd Cymru mae un o Gors Caron, un arall o Swydd Faesyfed a thrydydd mewn arch bren gyntefig yn Nhal y Llyn ym Meirionnydd. Cafwyd hyd iddyn nhw i gyd gan dorwyr mawn, pan roedd torri mawn a’i osod i sychu yn orchwylion cyffredin yr haf mewn ardaloedd di-goed.

Roedd mawn yn adnodd rhad ar gyfer cynhesu a choginio, er yn gofyn am gryn dipyn o lafur. Mewn ardaloedd gydag ychydig o bobl a llawer o gorsydd mae’n sicr fod y cyflenwad wedi ymddangos yn ddi-ben-draw. Mae o’n adnodd adnewyddadwy mewn gwirionedd, ond mae adnewyddu mawn yn broses mor eithriadol o araf, dim ond llond dwrn o bobl mewn ardal lawn mawn fyddai yn gallu ei ddefnyddio’n gynaliadwy.

Fel tanwydd ffosil, daw egni’r mawn o’i gynnwys carbon ac fel glo, defnydd ar ffurf planhigion marw yw’r carbon mewn mawn. Mae cyfansoddiad mawn yn dibynnu ar y math o fawnog lle cafodd ei ffurfio. Mae cors yn asidig ac yn ffurfio ei mawn yn bennaf o weddillion mwsoglau Sphagnum. Mae ffen yn alcalaidd a daw ei mawnog o hesg, brwyn neu gyrs. Yn oer ac yn wlyb, mae amodau arbennig y gors a ffen yn arafu pydredd deunydd organig. Dros gyfnodau maith mae’r deunydd planhigiol yn cael ei biclo’n araf ac yn cael ei gywasgu i ffurfio mawn.

Heddiw mae arnom angen cadw mawn yn y ddaear. Mae’r cyfnod o losgi gwastraffus mawn ar raddfa enfawr yng ngorsafoedd pŵer Iwerddon (a yrrir gan fawn) yn dod i ben yr un pryd ag y mae’r adnodd mawn y mae’n economaidd ei dorri yn darfod. Wedi ei grafu o’r ddaear, ei sychu, ei losgi: mae’r cwbl wedi ei ddefnyddio. I’r mawn sydd wedi diflannu fel mwg mae’r unig beth sydd ar ôl bellach yn ein hatmosffer, yn newid ein hinsawdd ac yn peri risg pellach I’n bywydau a’n cynefinoedd gwerthfawr, yn cynnwys y corsydd a’r ffendir sydd ar ôl.

Po fwyaf tua’r gogledd a’r gorllewin yr awn, po fwyaf yw’r potensial i fawn gronni’n wlyb o dan ein traed. Mae corsydd yn fannau gwyllt, ymhell o ganolfannau poblogaeth, ac mae ganddyn nhw eu byd natur a’u diwylliant eu hunain. Maen nhw’n oer, yn wlyb, yn wyntog, yn anodd eu croesi, ac yn beryglus i fynd ar goll ynddyn nhw.

Daw’r tro olaf yng nghynffon hanes mawn yn agos iawn i gartref. Dychmygwch ddangos eich gardd i’ch teulu neu ffrindiau. Dychmygwch frolio wrthyn nhw eich bod wedi prynu darn o goedwig law’r Amason, wedi ei chwympo, ac wedi ei defnyddio i botio blodau. Dyma beth mae pob un ohonom wedi bod yn ei wneud. Mae mawnogydd a reolir yn dda yn storio mwy o garbon, yn fwy dibynadwy ac yn fwy parhaol nag unrhyw goedwig yn unlle ar y blaned. Maen nhw’n gartref i rywogaethau prin o blanhigion ac i rai mewn perygl o ddiflannu o’r tir, yn ogystal â phryfed ac adar na fyddan nhw’n gallu byw’n unrhyw le arall.

Am gyfnod hir mewn gerddi y defnyddid y mawn gwerthfawr. Wedi ei gloddio o’r gors, ei sychu, ei bacio a’i gludo yna, yn rhyfedd iawn, yn cael ei roi’n ôl yn y ddaear yn ein gerddi. Mae garddwriaeth yn parhau i ysgogi torri mawn ar raddfa fasnachol i’w ddefnyddio fel cyfrwng potio. Ers degawdau, mae prynu compost neu blanhigion o ganolfannau garddio wedi golygu cyfrannu at ddinistr llwyr mawnogydd gwyllt yma a thramor.

O’r diwedd mae agweddau wedi newid ac mae ymwybyddiaeth yn troi’n weithredu. Mae’r diwydiant garddio wedi ei lusgo i’r 21ain ganrif ac yn dechrau mynd i’r afael â’r angen ar frys i beidio â defnyddio mawn. Mae siopau ar flaen y gad wedi datgan eu statws di-fawn. Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn haeddu clod arbennig am arwain y ffordd ar y mater hwn ers rhai blynyddoedd. Yn eu gofal mae ardaloedd eang o fawnogydd yn Eryri a mannau eraill, ac mae’n gwneud synnwyr bod yr YG wedi deall y cyswllt rhwng gwarchod yr adnodd naturiol a’r adnoddau a ddefnyddir ganddi yn ei llu o erddi hardd.

Gallwn i gyd helpu. Gwiriwch yn ofalus wrth brynu compost; mae rhai cyflenwyr yn cuddio gwir gynnwys mawn eu cynnyrch yn y print mân. Ysgrifennwch at gyflenwyr i ofyn am gompost di-fawn a pheidiwch â derbyn unrhyw lol! Gadewch i ganolfannau garddio wybod eich bod am brynu compost a phlanhigion di-fawn yn unig.

O’r diwedd mae mawnogydd Eryri yn derbyn y gofal haeddiannol. Arweinir projectau adfer ar raddfa fawr gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, RSPB, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, a Chyfoeth Naturiol Cymru. Mae Cymdeithas Eryri yn falch o gefnogi’r projectau hyn a rhoi cyfle i bobl wisgo eu welingtons a chamu i’r corsydd er mwyn eu cadw a’u hadfer. Rydym yn arbenigo mewn clirio egin goed coniffer; gwaith y mae ein gwirfoddolwyr yn gallu ei wneud yn effeithiol ac sy’n ein gwobrwyo’n dawel am ddegawdau i mewn i’r dyfodol. Rheoli conifferau pan maen nhw’n egin goed bach yw’r ateb mwyaf effeithiol o lawer; os ydyn nhw’n cael eu gadael byddai’r conifferau’n tyfu’n gyflym ac yn cysgodi a sychu’r mawn, gan niweidio ei allu i gloi dŵr a charbon. Mae pob gwirfoddolwr sy’n helpu yn rhan o’r ateb.

Mae corsydd Eryri yn cynnal traean o holl fawnog Cymru. Mae’r mannau gwyllt yma o fawnog ynghlwm wrth ein bywydau mewn ffyrdd rhyfeddol, ac mae’n siŵr bod mwy o straeon o fyw a marw wedi eu cloi ynddyn nhw. Ein dewis ni fydd penderfynu a fydd y straeon yma yn adrodd hanes ein gorffennol neu ein dyfodol.

Mae John Harold yn Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri.

Comments are closed.