Parciau Cenedlaethol mewn perygl

Gweithredwch rŵan!

Flwyddyn yn ôl, fe wnaethom ni ysgrifennu am y perygl i’r Parciau Cenedlaethol yng Nghymru gael eu tanseilio gan Lywodraeth Cymru.  

Bydd yr adroddiad ‘Tirweddau’r Dyfodol: Cyflawni i Gymru’ sydd heb ei gyhoeddi eto yn cael ei drafod yn y Cynulliad ddydd Mawrth 28 Mawrth, ac mae’n aneglur fod seiliau clir i’n pryderon: darllenwch y datganiad hwn gan y Gynghrair dros Barciau Cenedlaethol yng Nghymru.   Ymateb y Gynghrair i adroddiad terfynol Tirweddau’r Dyfodol Cymru / Alliance response to Future Landscapes Wales report final

Cysylltwch â’ch AC, rŵan, a gofyn iddynt fynychu’r ddadl yfory:

– Annogwch hwy i gefnogi Parciau Cenedlaethol Cymru a sicrhau eu bod yn parhau i gael eu diogelu i safonau rhyngwladol
– Gofynnwch iddynt fynnu bod ymgynghoriad cyhoeddus llawn yn digwydd.

Manylion cysylltu Aelodau Cynulliad.

 

Mae adroddiad Tirweddau’r Dyfodol wedi’i ysgrifennu’n wael, yn ddryslyd, yn aneglur ac yn hunangroesddywedol.  Ar waethaf hyn, mae’r bwriad sydd wrth wraidd yr adroddiad yn eithaf amlwg.  Mae’n cyflwyno safbwynt hen ffasiwn a chul o’n hasedau cenedlaethol mwyaf gwerthfawr – ein hamgylcheddau gwarchodedig – ar ffurf – ‘dehongliad cyfoes newydd’.  Mae’r hyrwyddo hen chwedlau ynghylch Parcia Cenedlaethol yn rhwystro datblygu.  Mewn gwirionedd, bydd Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn cymeradwyo cymaint o geisiadau cynllunio ag unrhyw awdurdod lleol arall.  Y gwahaniaeth cynnil yw eu bod, mewn egwyddor ac i raddau helaeth yn ymarferol, yn gwrthod ceisiadau cynllunio anaddas.  Dyna yw diben pwerau cynllunio mewn Parciau Cenedlaethol a dyna pam fod rhai yn dymuno agor y Parciau Cenedlaethol fel rhan o ‘ras i’r gwaelod’.

Bydd Aelodau’r Cynulliad – manylion cyswllt yma 2016-2021 AM Contacts & Constituencies  – yn dymuno cyfranogi yn y ddadl ddydd Mawrth a dangos eu dealltwriaeth ynghylch cymaint mae ar Gymru angen ei Pharciau Cenedlaethol.  Bydd Aelodau’r Cynulliad yn gwybod pa mor bwysig yw ein Parciau Cenedlaethol – Arfordir Sir Benfro, Bannau Brycheiniog ac Eryri – i bobl Cymru.  Byddant yn gwybod yn sicr hefyd ein bod yn dymuno sicrhau eu bod yn parhau â dulliau priodol o warchod tirweddau, harddwch naturiol a gwarchod bywyd gwyllt.

Yn anad dim, bydd Aelodau’r Cynulliad yn deall y pwysigrwydd ar hyn o bryd o gynnal eu statws rhyngwladol fel rhywbeth sy’n chwifio baner Cymru, fel Tirweddau Gwarchodedig a gydnabyddir yn genedlaethol – brand byd-eang sy’n golygu rhywbeth, nid bathodyn a phlât enw ffug.  Rydym yn erfyn arnynt i fynnu cael ymgynghoriad cyhoeddus llawn ynghylch unrhyw ddeddfwriaeth arfaethedig sy’n effeithio ar ddibenion Parciau Cenedlaethol.

Diolch.

Comments are closed.