“Parchwch Eryri a helpwch i wneud twristiaeth yn gynaliadwy” yw’r neges wrth i Ŵyl y Banc Mai nesáu

Cymdeithas Eryri yw’r unig fudiad gwirfoddol sy’n bodoli yn unig i warchod a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri. Ar drothwy prysurdeb Gwyliau Banc Mai a dechrau tymor yr haf, mae’r Gymdeithas wedi ymbil ar bawb sy’n dod i fwynhau mynyddoedd, coedydd, cefn gwlad ac arfordir anhygoel Eryri i drin yr ardal gyda pharch. Maen nhw’n gofyn i bawb sy’n ymweld wneud popeth o fewn eu gallu i leihau eu heffaith amgylcheddol ac i roi rhywbeth yn ôl i’r ardal, efallai trwy ymuno â diwrnod gwirfoddoli neu gefnogi gwaith y Gymdeithas.

“Mae’n debyg mai’r Wyddfa yw mynydd prysuraf y byd, gan ei fod yn denu tua 700,000 o ymwelwyr bob blwyddyn”, meddai Rory Francis, Cyfarwyddwr y Gymdeithas. “Mae pwysau enfawr y niferoedd sy’n dod i Eryri yn arwain at broblemau sbwriel, parcio amhriodol a phethau gwaeth. Rydan ni eisiau pobl allu dod i fwynhau’r ardal anhygoel hon, ond ein neges yw, plîs gwnewch bopeth o fewn eich gallu i gynllunio eich ymweliad ymlaen llaw a lleihau yr effaith ar yr amgylchedd.”

Mae’r Gymdeithas felly yn annog pawb i:

  • Edrych ar y gwasanaethau bysys a threnau i weld pa deithiau y gallech eu gwneud ar drafnidiaeth gyhoeddus. Edrychwch ar www.traveline.cymru
  • Archebu llety ymhell ymlaen llaw a gwneud defnydd o feysydd gwersylla swyddogol
  • Cynlluniwch unrhyw lwybr cerdded ymlaen llaw, ewch â map a chwmpawd, esgidiau a dillad addas a digon o fwyd a diod
  • Cyn cychwyn, ystyriwch y cwestiynau a ofynnir yn y cwis Adventure Smart, ac os nad ydych yn siŵr a ydych chi’n barod ar gyfer y gweithgaredd ar y diwrnod, ystyriwch gynlluniau gwahanol.
  • Dilynwch y côd cefn gwlad
  • Gadewch ddim byd ond olion traed, ewch â dim byd i ffwrdd ond ffotograffau
  • Cefnogi busnesau lleol a’r economi leol
  • Ystyried rhoi rhywbeth yn ôl i’r ardal, trwy ymuno â diwrnod gwaith gwirfoddoli Caru Eryri, neu gefnogi Cymdeithas Eryri

Pan ail-agorodd Eryri i ymwelwyr ym mis Gorffennaf 2020, fe heidiodd miloedd i gefn gwlad ar ôl y cyfnod cloi. Dros nos, mae materion fel sbwriel, pwysau parcio, ‘gwersylla anghyfreithlon’, diogelwch mynydd a gwastraff dynol wedi cyrraedd lefelau newydd yn ogystal â’r penawdau. Y neges gan Gymdeithas Eryri yw, yn anffodus, nad yw’r problemau hyn wedi diflannu.

Dyna pam y cyd-sefydlodd Cymdeithas Eryri brosiect Caru Eryri, ynghyd ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r Bartneriaeth Awyr Agored. Mae Caru Eryri yn gweithio gyda gwirfoddolwyr i fynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar gymunedau lleol a’r amgylchedd naturiol mewn llawer o’r safleoedd mwyaf poblogaidd Eryri a’r cyffiniau. Mae gwaith y Gymdeithas gyda Caru Eryri yn cael ei gefnogi gan Gyngor Gwynedd gydag arian Llywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae’r gwaith wedi’i gynllunio’n ofalus fel ei fod yn ategu gwaith gwasanaethau Warden Eryri. Mae’r angen am Caru Eryri yn fwy nawr nag erioed, gyda mwy o safleoedd dan bwysau wrth i ddemograffeg ymwelwyr newid mewn ymateb i ffactorau megis Instagram, gan wneud mannau oedd gynt yn dawel yn boblogaidd yn sydyn, ond heb ddarparu’r gwasanaethau a’r isadeiledd i gyd-fynd â hyn.

Y flwyddyn ariannol diwethaf fe wnaeth gwirfoddolwyr Caru Eryri wneud 5,810 awr o waith cadwraeth. Roedd 175 o ddiwrnodau gwaith a/neu ddiwrnodau hyfforddi a chwblhaodd 34 o wirfoddolwyr hyfforddiant achrededig. Trefnodd y prosiect ddiwrnodau gwaith bob penwythnos yn ystod yr haf, fe gasglodd 1,500kg o sbwriel a helpu cynnal a chadw 30km o lwybrau troed.

Dywed Etta Trumper, Swyddog Gwirfoddoli a Lles Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: “Mae gwirfoddoli’n cynnig cyfleoedd amhrisiadwy i gysylltu a’n cymunedau a harddwch naturiol Eryri. Trwy ymuno â chynllun gwirfoddoli Caru Eryri, mae gan unigolion y cyfle i wneud ffrindiau newydd, magu sgiliau a chyfrannu at warchod ein tirweddau. Beth bynnag yw eich diddordebau neu allu, mae na rôl ar gyfer pawb er mwyn diogelu ein Parc Cenedlaethol anhygoel”.

Fe gafodd gwaith Caru Eyri ei gydnabod pan gyrhaeddodd y prosiect restr fe ar gyfer Gwobrau mawreddog Dewi Sant eleni1. Dywedodd Ian Hampton, un o’r gwirfoddolwyr a gymerodd ran: “Dros y 50 mlynedd diwethaf rwyf wedi treulio llawer o amser yn cerdded mynyddoedd Eryri gyda theulu a ffrindiau ac wedi meddwl yr hoffwn roi rhywbeth yn ôl. Gwirfoddoli oedd y dewis naturiol. Dwi’n cael treulio mwy o amser yn y Parc Cenedlaethol ac, ar yr un pryd, rydw i’n gadael y Parc mewn cyflwr gwell na phan gyrhaeddais.

“Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o ennill gwybodaeth newydd, cwrdd â phobl o’r un anian, helpu eraill, cael hwyl a mwynhau Eryri – hyd yn oed pan mae’n bwrw glaw.”

Mae cyngor ar gynllunio ymweliad â Pharc Cenedlaethol Eryri ar gael yn www.eryri.llyw.cymru/ymweld/cynllunio-eich-ymweliad

Mae gwybodaeth am wirfoddoli gyda neu ymuno â Chymdeithas Eryri ar gael yn https://www.snowdonia-society.org.uk/cy

  1. Mwy am hyn yn: www.llyw.cymru/gwobrau-dewi-sant 

 

Mae Cymdeithas Eryri yn elusen gadwraeth sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio gyda gwirfoddolwyr, cymunedau lleol, sefydliadau, busnesau ac unigolion i helpu i ofalu am Eryri. Ers 1967 mae Cymdeithas Eryri wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod Eryri’n cael ei gwarchod a’i reoli’n dda a’i mwynhau gan bawb. Trwy ein gwaith cadwraeth rydym yn darparu help llaw a llais cryf ar gyfer tirwedd arbennig Eryri. Ond yn y pen draw mae’n ymwneud â’r galon – y berthynas sydd gan bobl â natur, tirwedd a diwylliant Eryri. Rhagor am y Gymdeithas yma: https://www.snowdonia-society.org.uk/cy/

Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored mewn modd diogel a chyfrifol. Eu neges yw, “Cyn cychwyn, ystyriwch y cwestiynau a ofynnir yn y cwis Adventure Smart, ac os nad ydych yn siŵr a ydych chi’n barod ar gyfer y gweithgaredd ar y diwrnod, ystyriwch gynlluniau gwahanol. Bydd mynyddoedd, afonydd, llynnoedd ac arfordir Eryri yn dal yno ar ddiwrnod arall, ac rydym am i bawb sy’n dod i’w mwynhau, wneud hynny’n ddiogel. Os nad ydych chi’n siŵr a yw’r weithgaredd yn iawn i chi ar y diwrnod, meddyliwch ddwywaith. Mae’r awyr agored i bawb, ac mae angen i ni gyd ofalu amdano ac ein, gilydd fel y gallwn i gyd ei fwynhau am flynyddoedd i ddod”.

Comments are closed.